Aled Islwyn
Daw Aled Islwyn o Bort Talbot yn wreiddiol ond mae'n byw yng Nghaerdydd bellach ac yn cael ei ystyried fel un o awduron y ddinas. Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru – Llanbedr Pont Steffan. Mae ei waith yn aml yn trafod y berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas, mae'n gosod ei chwyddwydr ar y natur ddynol. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1977 ac fe enillodd wobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac 1985. Enillodd ei nofel Unigolion Unigeddau wobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 1995.