Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y Lolfa yn ailgyhoeddi clasur am chwedlau Cymru

Yr wythnos hon cyhoeddir fersiwn diwygiedig o glasur Cymraeg, sef Chwedlau Gwerin Cymru, gan Robin Gwyndaf (Y Lolfa). Yn wreiddiol fe’i cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1989 – cofnod holl bwysig o draddodiad y stori werin yng Nghymru.

Dros gyfnod o ugain mlynedd, bu Robin Gwyndaf yn sgwrsio gyda mwy na 2,500 o bobl, a recordiwyd tua 400 ohonynt ar dâp. Y mae’r deunydd hwn, mewn llyfr, cylchgrawn, a thua 600 awr o recordiad ynghyd ag eitemau ysgrifenedig a gofnodwyd yn gynnar iawn mewn llawysgrif, yn dangos yn glir “amrywiaeth a chyfoeth rhyfeddol traddodiad y stori werin yng Nghymru”, fel y dywedodd Colin Ford, Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn ei gyflwyniad i’r trydydd argraffiad yn 1995.

Mae’r gyfrol hon yn cofnodi 63 o straeon dros Gymru gyfan, gan gynnwys Ynys y Seintiau o Ynys Enlli, Y Ddraig Goch o Ddinas Emrys, Sir Gaernarfon, Y Ddau Ychen Bannog o Landdewibrefi, Ceredigion a Rhys ap Iestyn a’r Tylwyth Teg, y castell a’r storm o dywod o Gastell Pennard, Sir Forgannwg.

Meddai Dr Robin Gwyndaf:

“Fy ngobaith yw y bydd y gyfrol hon yn gyfraniad bychan tuag at wireddu fy mreuddwyd o weld Cymry o bedwar ban byd, a phobl Prydain hefyd, yn gwerthfawrogi o’r newydd gyfoeth ein hetifeddiaeth fel cenedl. Mawr yw’r angen am gyflwyno hanes Cymru, mewn modd diddorol ac ystyrlon, i holl drigolion ein gwlad, a thu hwnt, beth bynnag fo’u hoedran, a beth bynnag fo’r iaith y maent yn ei siarad.”

“Mae ein chwedlau a’n traddodiadau gwerin, prif destun y gyfrol hon, yn elfen bwysig. A dyna un rheswm paham y carwn weld y gyfrol bresennol yn rhan o faes llafur ein hysgolion uwchradd yng Nghymru.”

Newidiadau angenrheidiol yn unig sydd wedi’u gwneud i’r gyfrol, ac mae darluniau hyfryd yr arlunydd, Margaret D. Jones, sydd bellach yn 104 oed, yn dal i ddisgleirio yn y gyfrol. Ar y cyd gyda’r awdur, comisiynwyd Margaret Jones i ddylunio map yng nghyfrol 1988, a byddwn yn cyhoeddi’r print ar ffurf poster cyn y Nadolig.

Cyhoeddir fersiwn Saesneg o’r gyfrol yn 2024.