Sut le fydd Cymru erbyn 2056?
Pobol Cymru’r dyfodol sydd wrth galon nofel newydd Catrin Dafydd a gyhoeddir yr wythnos hon.
Wedi ei lleoli yng Nghymru y dyfodol agos, nofel gyffrous a deallus yw Gwales sydd yn ymdrin â’r cwestiwn, beth fydd dyfodol Cymru a’i phobol?
Yn y nofel, mae Brynach Yang am orffen popeth. Ac mae'n mynd i'w wneud e. Heno. Ond beth fydd yn digwydd i Gymru wedyn? Mae ymgyrch Gwales ar fin dechrau ar siwrne gythryblus... a Brynach sy'n arwain y chwyldro.
Mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol, rydym yn cyfarfod â sawl teulu sy'n ceisio goroesi’r heriau enfawr sydd o’u blaenau.
Daw’r nofel 60 mlynedd ers cyhoeddi’r clasur Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis yn 1957, sydd yn ymdrin â themau tebyg.
Mae Catrin Dafydd yn awdur, bardd a pherfformwraig ac mae’n weithredol yn wleidyddol. Yn awdures brofiadol â llais unigryw, cyrhaeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Pili Pala, restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Cyhoeddodd ddwy nofel yn Saesneg hefyd a chyrhaeddodd ei nofel Saesneg gyntaf Random Deaths and Custard restr fer gwobr Spread the Word: Books to Talk About. Hi hefyd yw awdur Y Tiwniwr Piano a Random Births and Love Hearts.
Bydd Gwales yn cael ei lansio nos Wener y 15fed o Fedi yn
ystafell Hen Ysgoldy'r Eglwys (Old Church Rooms) Radyr, Caerdydd. Bydd sesiwn
am y nofel yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn am 1 o’r gloch yn The Full Moon,
Caerdydd fel rhan o ŵyl IndyFest Yes
Cymru.
Yn ogystal, bydd digwyddiadau lansio yng Nghaerfyrddin ar y 22ain o Fedi ac ym Mhalas Print, Caernarfon ar nos Iau'r 28ain o Fedi.