Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan ddarlun enwog Salem, lle mae’r diafol yn y siôl yn taro’i gysgod yn dragwyddol...

Mae’r awdur poblogaidd Haf Llewelyn ar fin cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf, sy’n dwyn y teitl Salem. Nofel yn pendilio rhwng y flwyddyn 1908 a 2016 yw hon, a gwelwn iddi ddechrau yn 1908 drwy olrhain hanes merch o’r enw Agnes neu Neta, ynghyd â’i theulu. Mae Neta yn ei chael ei hun yn feichiog, ac o’r herwydd yn wynebu llid y gymdeithas gapelyddol y mae’n trigo ynddi. Trist yw ei thynged wrth inni ddod i wybod maes o law ei bod wedi mynd i mewn i’r môr yn Llandudno.

Caiff y stori ei hadrodd trwy lais ei chwaer fach, Gwenni, sy’n profi gwahanol agweddau ei rhieni tuag at ddiflaniad Neta. Mae yma fregusrwydd yn wyneb yr heriau ingol a ddaw i ran y teulu, ac wrth i’r aelodau ymdopi â’u galar yn eu ffyrdd eu hunain. Yn gefnlen i’r cwbl, mae cymdeithas grefyddol yr oes, y rhagfarn a’r sen, a’r ffug Gristnogaeth hefyd. Eto i gyd, mae yna gariad a chefnogaeth driw, a hynny gan garfannau annisgwyl o’r gymdeithas.

Stori Beca a gawn yn 2016, wedyn. Daw’r llinyn arian sy’n cysylltu’r ddau gyfnod i’r amlwg wrth fod Olwen Agnes, nain Beca, wedi ei henwi ar ôl y ferch aeth ar goll. Mae Beca yn cwestiynu ei hun fel mam sengl ac yn gwrthdaro â’i merch 15 oed, Ceri. Mae'r stori felly yn pendilio rhwng dwy ferch sydd, er o gyfnodau gwahanol, yn ei chael yn anodd gweddu’n rhwydd i gonfensiynau’r oes maen nhw wedi eu geni iddi. 

Bydd cysgod y darlun Salem gan Vosper trwy’r stori – yr hen gred bod diafol yn y siôl – a bod tueddiad ynom i chwilio am fwgan i’n rhwystro neu i’n baglu o hyd. Ond, mae ysbryd herfeiddiol y Neta wreiddiol yn cynnal merched y presennol. Meddai’r awdur:

‘Er i’r menywod wynebu bwganod a rhagfarnau yn y ddau gyfnod, trwy rym eu cysylltiad â’i gilydd, maen nhw’n llwyddo i godi uwchben y rhagfarnau hynny.’

Mae Salem ar werth rŵan (Y Lolfa, £9.99)