Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel lawn troeon a hiwmor sy'n ddihangfa pur!

Mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun fel brenhines y nofel boblogaidd Gymraeg, ac ni fydd ei stori newydd Dros fy Mhen a ’Nghlustiau yn siomi! Mae’n nofel afaelgar, sy’n llawn hiwmor a throeon, ac fel sawl un o nofelau yr awdures mae’n chwarae gyda’r syniad o ffawd.

Meddai Marlyn Samuel:

“Ydyn ni’n nabod pobl go iawn? Mae’n hawdd iawn i ni gael ein dallu a’n twyllo. A hynny yn union fel y prif gymeriad Nina, sydd yn disgyn dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad efo Marc Jones, ac sy’n cael ei dallu ganddo. Mae’r nofel yn edrych ar sut mae un digwyddiad yn gallu newid cwrs bywyd rhywun – tasa Nina heb fynd ar y trip bws hwnnw yn gwmni i’w modryb, mi fysa ei bywyd hi wedi bod yn wahanol iawn.”

Yn wahanol i’w nofelau blaenorol, mae Dros fy Mhen a ’Nghlustiau wedi’i hysgrifennu yn y person cyntaf, o bersbectif Nina. Mae bywyd diflas Nina yn newid ac mae sioc enfawr yn ei disgwyl hi. Mae’r darllenydd yn darganfod pethau wrth i Nina ddarganfod mwy o gyfrinachau am ei ei darpar-ŵr.

Meddai’r actores Gaynor Morgan Rees am Dros fy Mhen a ’Nghlustiau, “Peidiwch â dechrau darllen hwn oni bai bod ganddoch chi’r amser i’w orffen.”