Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel i’r Arddegau Sy’n Trafod y Profiad o Fod yn Wahanol

Yr wythnos hon cyhoeddir Un mewn Can Mil, nofel a ddisgrifiwyd fel “clasur llawn emosiwn” am dyfu i fyny, am ffitio i mewn, am sefyll allan ac am bŵer cyfeillgarwch.

Dyma addasiad Cymraeg Meinir Wyn Edwards o nofel a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan yr awdures o Norwy, Linni Ingemundsen. Mae Sander, 15 oed, yn cael ei fagu ar aelwyd rhiant sengl gyda dau frawd, heb fynegi galar am ei dad yn agored, ac mae’n dioddef o syndrom Silver-Russell, anhwylder sy’n effeithio ar un mewn can mil o bobl. Mae’n gyflwr sy’n golygu nad yw’r unigolyn yn tyfu ac yn datblygu’n gorfforol fel plant eraill. Oherwydd hyn, mae Sander yn llai na’i gyfoedion, lle mae’r rhai mwyaf eu maint a’u sŵn yn cael y sylw i gyd. Rhai fel Niklas.

Mae Niklas newydd symud i fyw i’r dre, ac mae pawb yn meddwl bod Niklas yn cŵl ac yn olygus – pawb ond Sander. Dyw e ddim yn hoff o’r ffordd mae Niklas yn brolio, yn ymddwyn fel idiot ac yn rhaffu celwyddau. Mae Niklas yn dal ac mae Sander yn teimlo’n hollol ddi-werth wrth ei ymyl. Ond mae Sander yn wahanol mewn sawl ffordd. Mae’n sylwi ar bethau mae pobl eraill yn eu colli, ac mae wedi sylwi ar rywbeth am Niklas…

Dyma nofel sy’n ymdrin â themâu dwys, megis hunanladdiad a cham-drin plant, ond eto mae yma hiwmor ac anturiaethau drygionus sydd yn nodweddiadol o’r arddegau – cael cariad, mynd i barti heb oedolion, yfed alcohol, gwaith ysgol, ansicrwydd a chwestiynu hunaniaeth. Trwy stori Sander a’i ffrindiau, cawn hyn i gyd, yn ogystal â’i ddiddordeb arbennig mewn ffotograffiaeth, sy’n llinyn cyswllt drwy’r nofel. Stori yw hon am ing tyfu i fyny, am sut i ddechrau deall y byd, ac am ddysgu beth yw ymddygiad derbyniol ac annerbyniol.

Meddai Meinir Wyn Edwards:

"Mae nofelau sy'n trafod anhwylderau corfforol a meddyliol yn bwysig iawn, yn enwedig ar gyfer yr arddegau. Dyma gyfnod anodd yn ei hanfod, pan mae plant yn troi'n oedolion ifanc, gyda'r holl newidiadau yn digwydd i'w cyrff a'u hemosiynau. Ydy, mae Un mewn Can Mil yn trafod anhwylder corfforol penodol, ond mae hefyd yn ymdrin â digwyddiadau a phroblemau sy'n berthnasol i'r mwyafrif o arddegwyr. Mae'n nofel sy'n trin pynciau dwys ond mae hefyd yn ddarllenadwy iawn, ac rydyn ni'n dod i adnabod y cymeriadau yn dda, yn enwedig Sander a Niklas, ac yn teimlo ein bod ni'n mynd ar y daith bersonol gyda nhw."

Nofel ar gyfer yr arddegau yw hon sy’n rhan o gynllun Darllen yn Well. Mae’r cynllun yn cynnwys llyfrau ac adnoddau digidol sydd wedi eu dewis yn arbennig gan bobl ifanc yn eu harddegau ac arbenigwyr iechyd a lles. Pwrpas y llyfrau a’r adnoddau digidol hyn yw helpu pobl ifanc yn eu harddegau i ddeall teimladau, rheoli emosiynau, hybu hyder ac ymdopi ar adegau anodd.