Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Mewn fila crasboeth yn Umbria, mae cymeriadau’n tynnu’n groes, a chyfrinachau’n bygwth berwi drosodd…

‘Beth os oedd neb yn adnabod ei gilydd mewn gwirionedd, yn setlo am yr arwynebol heb dreiddio i’r dyfnderoedd?’

Dyma linell yn nofel diweddaraf yr awdur poblogaidd Sioned Wiliam sy’n dwyn y teitl Y Gwyliau, sydd newydd ei chyhoeddi â gwasg y Lolfa y mis hwn. Nofel yw hon am gwmni’n dod at ei gilydd am bythefnos o wyliau mewn un fila yn Umbria – yn deulu, ffrindiau a chydnabod. Bydd rhai yn cyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf, eraill yn hen gyfarwydd ag antics y naill a’r llall, ac mae’n amlwg o’r dechrau bod tensiwn yn mudferwi. Ond mae’r lleoliad yn ddelfrydol, a diwylliant yr ardal yn drawiadol, heb sôn am yr awyr ddigwmwl sy’n cyfarch pawb bob bore. Beth all fynd o’i le, mewn difrif?

Mae’r nofel yma’n tystio bod llawer all fynd o’i le os rydych yn rhoi cwmni croes efo’i gilydd a’u gorfodi i fyw o dan yr un to am bythefnos. O fewn y waliau hyn, ceir sawl ymdrech i gadw’r ddysgl yn wastad, yn enwedig er mwyn y plant. Ond, mae celwyddau, cywilydd a materion agos at galon dyn yn cael eu rhoi ar brawf wrth i’r dyddiau fynd rhagddynt, a phan mae un ffrwydriad yn digwydd, buan iawn y mae ffrwydriadau eraill yn dilyn...

Ymhlith y criw mae’r cyfarwyddwr teledu a’r cyn-garcharor Dylan Morgan a’i wraig Meriel, eu merch Rhian a’i gŵr Huw, a’u hwyrion Twm ac Osian. Yn ymuno â nhw mae Awen Humphries, awdur llwyddiannus y nofel We Cried Soot for Tears, ei gŵr Meic, cyflwynydd teledu sy’n wyneb cyfarwydd ar S4C a’u merch Llinos. Mae Tecwyn, actor Hollywoodaidd sydd â’i wreiddiau yng Ngheredigion yno hefyd. Ac yn gefnlen i’r cwbl, mae’r Eidalwyr sy’n gweld eu pentref yn marw wrth i’r prif gymeriadau a’u tebyg brynu’r lle ar gyfer eu tai haf melltigedig – ai mater o amser fydd hi nes iddynt hwythau, hefyd, golli eu limpyn yn lân?

Meddai’r awdur:

‘Rwyf wedi bod mewn cariad gyda’r Eidal ers blynyddoedd – y bwyd, y tirwedd a’r bobol. Ro’n i am ddychmygu sut y byddai criw o gyfryngis Dosbarth Canol Cymraeg yn mwynhau gwyliau yno a mwynhau tamaid o ddychan, hefyd   dyn yw dyn ar bum cyfandir wedi’r cyfan. Mae yna sgerbydau y stelcian mewn sawl cwpwrdd!’

Dyma bedwaredd nofel Sioned Wiliam sy’n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu yn y Deyrnas Unedig. Mae’r nofel lawn hiwmor newydd yn dilyn poblogrwydd y dair nofel gyntaf, Dal i Fynd, Chwynnu a Cicio’r Bar. Disgrifiodd Bethan Gwanas Dal i Fynd fel “Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.”

Magwyd Sioned yn y Barri ac mae hi bellach yn byw yn Llundain. Dechreuodd gyda’r BBC yn Llundain yn yr adran radio adloniant ysgafn cyn gweithio fel cynhyrchydd annibynnol. Bu’n gomisiynydd comedi i ITV ac i BBC Radio 4. Mae’n adolygu theatr a theledu i BBC Radio Cymru ac ar sioe wythnosol Gaby Roslin ar BBC Radio London.

Mae Y Gwyliau gan Sioned Wiliam ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa)