Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr i arfogi plant a phobl ifanc yn wyneb pwysau cynyddol y cyfryngau cymdeithasol

Mewn oes sy’n gynyddol dechnolegol, mae gallu technoleg i ehangu gorwelion ein bydoedd yn syfrdanol. Ond, mae hynny’n aml yn dod â phris gan bod yna lawer o bethau negyddol all godi yn sgil y datblygiadau diweddaraf ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n dipyn o gamp gwybod sut i fynd ynglŷn â’r heriau hyn, ac yn aml iawn, rydyn ni’n teimlo’n rhwystredig, ar goll, ac yn llawn pryder oherwydd y cymhlethdod, ac eisiau cymorth gan ffynhonnell ddiogel a dibynadwy.

I'r perwyl hwn, dyma a geir yma. Mae Canllaw i Oroesi’r Cyfryngau Cymdeithasol yn llyfr cynhwysfawr a thrylwyr sydd yn edrych ar bob agwedd ar y cyfryngau cymdeithasol – y da a’r drwg. Mae’n rhoi’r darllenydd ar ben ffordd gyda materion megis sut i gael y cydbwysedd yn gywir a pheidio â gadael i’r cyfryngau cymdeithasol reoli agweddau ar fywyd, sut i gynnal perthnasoedd iach drwy’r cyfrwng hwn, a sut i gefnogi iechyd meddwl yn y broses.

Mae’r llyfr hefyd yn cydnabod yr angen i fod yn wyliadwrus ac yn ofalus ar y we. I blant a phobl ifanc yn arbennig, mae’r rhybuddion a’r argymhellion sy’n cael eu cynnig mewn perthynas â hyn yn rhai gwerth eu mewnoli a’u cofio. Mae’r llyfr yn arfogi’r darllenydd gyda sgiliau ynghylch sut i fynd i’r afael â gosodiadau preifatrwydd cadarn, sut i osgoi newyddion ffug ac effaith niweidiol dylanwadwyr a’u hidlyddion gwella pryd a gwedd (fillters), beth i’w wneud yn wyneb bwlio a throliau ar-lein, a chymaint mwy.

Dyma lyfr cyfeillgar, llawn empathi sydd â’r bwriad o gadw plant a phobl ifanc ar lwybr cadarnhaol, iach yn wyneb pwysau aruthrol y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys geirfa’r cyfryngau cymdeithasol fel nad oes neb yn cael eu gadael yn y niwl, ynghyd â dolenni dibynadwy yng nghlo’r llyfr os am ragor o gyngor a chefnogaeth.

Mae Canllaw i Oroesi’r Cyfryngau Cymdeithasol ar gael nawr (Y Lolfa, £6.99)