Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gladiatrix: Bethan Gwanas yn rhoi llwyfan i'r merched yn Oes y Rhufeiniaid mewn nofel newydd

Mae’r awdures Bethan Gwanas wedi mentro i fyd llawn cynnwrf y Gladiatoriaid gyda’i nofel newydd Gladiatrix sydd newydd ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Dyma nofel epig, llawn antur, angerdd ac emosiwn sydd wedi ei seilio ar ffeithiau hanesyddol. Fydd croesi’r Fenai byth yr un fath ar ôl darllen hon!

Yn ganolbwynt i’r nofel mae Rhiannon sy’n 17 oed ac yn byw ar Ynys Môn pan mae’r Rhufeiniaid, dan arweiniad Suetonius Paulinus, yn croesi’r Fenai i ddifa’r Derwyddon. Mae pobol Môn yn ymladd yn ddewr ond yn cael eu chwalu. Ynghanol y gyflafan, mae’r Rhufeiniaid yn sylwi bod Rhiannon a’i chwaer fach Heledd yn ymladdwyr cryf a dewr. Mae’r Ymerawdr Nero wrth ei fodd yn gwylio merched yn cwffio, felly caiff y ddwy eu cludo i Rufain i ddysgu’r grefft o ymladd fel Gladiatoriaid. Bydd yn rhaid i’r ddwy ymladd am eu bywydau eto – ac eto.

Meddai Bethan: “Gwylio rhaglen deledu o’r enw Warrior Women o’n i pan ddeallais i am y tro cyntaf fod merched wedi ymladd fel gladiatoriaid. Roedden nhw wedi dod o hyd i lechfaen yn Nhwrci yn dangos dwy ferch yn ymladd, a hwnnw wedi ei gerfio am fod y ddwy wedi cael rhyddid yn sgil y frwydr. A’r dyddiad? Tua 60-62 OC. Cydiodd y merched hyn yn fy nychymyg yn syth a dyma sylweddoli bod y Rhufeiniaid wedi ymosod ar dderwyddon Ynys Môn tua’r un cyfnod. A bod Buddug wedi gwrthryfela draw yn y dwyrain yr un pryd. Roedd hynny ynddo’i hun yn sgrechian am nofel!”