Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dwdls i ysbrydoli siaradwyr newydd

Mae llyfr newydd o’r enw Dwdls Cymraeg gan yr Athro Oliver Turnbull, yn olrhain taith dysgwr trwy cyfres o ddŵdls. Mae’r dwdls yn amlygu mewn ffordd ysgafn rai o’r heriau sy’n wynebu siaradwyr newydd, yn enwedig wrth gaffael iaith. Daeth y llyfr at ei gilydd gyda chymorth Dr Llion Jones a thiwtoriaid Cymraeg Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ac o dan nawdd Ecoamgueddfa Llŷn.

Ar ei daith ieithyddol bersonol, ac yng nghysgod y pandemig, datblygodd yr Athro Oliver Turnbull ei ddull unigryw ei hun o ddatblygu ei eirfa. Yn wyneb y ffaith fod cymaint o eiriau Cymraeg yn swnio’n ddiarth i’w glust a chynifer yn swnio’n debyg i’w gilydd, aeth ati i ddarlunio parau o eiriau i’w helpu i’w cofio ac i wahaniaethu rhyngddyn nhw.

Mae’r gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd dwyieithog gan Yr Athro Oliver Turnbull sy’n amlinellu sut y rhoddodd y dŵdls hwb sylweddol iddo wrth ddysgu’r Gymraeg. Bydd y casgliad lliwgar o ddwdls yn siŵr o fod o gymorth i siaradwyr newydd eraill wrth ddatblygu eu geirfa ac yn sbardun hefyd i ddegau o sgyrsiau difyr rhwng siaradwyr hen a newydd.

Mae’r Athro Oliver Turnbull yn niwroseicolegydd a seicolegydd clinigol sydd wedi cyhoeddi oddeutu 200 o erthyglau academaidd ynghyd â sawl llyfr. Mae’n Athro Niwroseicoleg a Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor, ac ef hefyd sy’n arwain ysgol haf Visceral Mind Prifysgol Bangor lle mae’n dysgu niwroanatomi, gyda llawer o’r dysgu yn digwydd gyda chymorth darluniau a phaentiadau o amryw o strwythurau anatomegol.

Meddai Oliver Turnbull:

“Uchafbwynt personol i mi oedd mynd i’r afael â’r gair ymennydd. Yr ymennydd ydy sail fy ngwaith bob dydd, ond roeddwn i’n methu’n lân â chofio’r gair. I’m clustiau i, roedd yn swnio’n debyg i mynydd. Yr her i mi felly oedd peintio ‘mynydd ymennydd’. Rwy’n hoff o’r dwdl bach hwnnw. Mae’n dod â thri pheth pwysig yn fy mywyd i at ei gilydd, sef anatomi’r ymennydd, peintio a’r Gymraeg”