Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol yn dathu pen-blwydd yr Urdd yn 100 oed!

I nodi canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru, cyhoeddir Ein Urdd Ni gan Mari Emlyn (y Lolfa) – yr anrheg perffaith i’r hosan Nadolig. Yn y llyfr lloffion hwn, clywir gan rai o bobl fwyaf adnabyddus Cymru am y rhan y mae’r mudiad wedi ei chwarae yn eu bywydau. Ochr yn ochr â lluniau personol, cyflwynir pytiau o brofiadau amrywiol er mwyn cael cipolwg ysgafn a gwahanol i’r arfer o weithgaredd a gwerth yr Urdd.

Ymysg y cyfranwyr mae Angharad Mair, Beca Lyne-Pirkis, Bethan Gwanas, Beti George, Bryn Fôn, Bryn Williams, Caryl Parry Jones, Casi Wyn, Cleif Harpwood, Dafydd Iwan, Dylan Ebenezer, Ed Holden, Elin Fflur, Ffion Dafis, Gareth Potter, Gwennan Harries, Heather Jones, Huw Stephens, Ian Gwyn Hughes, Jason Mohammad, Laura McAllister, Lauren Morais, Llŷr Gwyn Lewis, Mared Williams, Mark Drakeford, Matthew Rhys, Nic Parry, Rhuanedd Richards, Richard Lynch, Sian Eleri Evans, Sian Lewis, Stifyn Parri a llawer mwy.

Yn y llyfr, sonia’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am y balchder y mae’n deimlo ynglŷn â’i gysylltiad â’r Urdd. Meddai: ‘Mae’n symbol o’r gwerthoedd rydyn ni’n eu rhannu, ein hiaith, ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol, a’r ffordd rydyn ni’n gallu dod ynghyd i wneud gwahaniaeth.’ Yr un yw byrdwn cyflwynydd Radio 1, Sian Eleri Evans: ‘Roedd yr Urdd yn rhan mor allweddol o ’mywyd i’n tyfu fyny. Fues i ’rioed yn arbennig o lwyddiannus a wnes i ’rioed bod ddigon dewr i gystadlu yn unigol, ond roedd y perthyn a’r hwyl oedd yn tanlinellu pob gweithgaredd mor bwysig i fi a fy ffrindiau. Mae ’na lwythi o atgofion melys yn sicr!’

Maent oll yn gytûn yn eu diolch i’r Urdd am ffrindiau newydd, am atgofion i’w trysori, am gyfoethogi eu bywydau, am siapio eu hieuenctid, am agor drysau ac am gyfleoedd a phrofiadau heb eu hail – a’r cyfan drwy’r Gymraeg. Wrth ddathlu cyrraedd carreg filltir nodedig, mae yna hen edrych ymlaen at y ganrif nesaf. Fel y dywed Ffion Dafis: ‘Ti reit arbennig ’sdi. Dim lot o bethau sy’n goroesi ac yn esblygu fel chdi.’

Ganwyd a magwyd Mari Emlyn yng Nghaerdydd. Mae wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd ac awdur llyfrau, yn ogystal â threulio pum mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon. Mae’n rhedeg cwmni Gola: cwmni dylunio a chreu lamplenni.

Mae Ein Urdd Ni gan Mari Emlyn ar gael nawr (£7.99, Y Lolfa).