Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith

Â’r Gymdeithas yn dathlu 60 mlynedd o ymgyrchu a llwyddiannau eleni, ddechrau Hydref, cyhoeddir Rhaid i bopeth newid: Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith dan olygyddiaeth Dafydd Morgan Lewis gan wasg y Lolfa. Dyma gyfrol sydd yn edrych yn ôl ar ymgyrchoedd y gorffennol ac yn cloriannu amcanion y Gymdeithas i’r dyfodol drwy lygaid rhai o’i haelodau mwyaf blaenllaw.

Yn ogystal â lluniau trawiadol gan Marian Delyth o’r 60 mlynedd a fu, ceir cyfraniadau gan Gareth Miles, Dafydd Iwan, Ffred Ffransis, Elin Haf Gruffydd Jones, Wynfford James, Toni Schiavone, Angharad Tomos, Steve Eaves, Helen Prosser, Lleucu Roberts, Menna Machreth, Joseff Gnagbo, Tamsin Davies, Hywel Griffiths, Mabli Siriol Jones a Haf Elgar.

Meddai Dafydd Morgan Lewis: ‘Gwahoddwyd rhai o ymgyrchwyr y Gymdeithas i gyfrannu i’r gyfrol hon. Mae pob un yn perthyn i wahanol gyfnodau yn hanes y Gymdeithas a hynny o’r 1960au hyd heddiw. Mae pob un hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y Gymdeithas, rhai am gyfnodau ac eraill am flynyddoedd lawer. Symudodd ambell un ymlaen i feysydd eraill, ond gydag ymrwymiad dwfn i ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau ac i ddyfodol y ddynoliaeth hefyd.

‘Bydd nifer ohonynt yma yn 2062 pan ddethlir canmlwyddiant Tynged yr Iaith. Yr ydym o fewn deugain mlynedd i hynny. Rhywbeth yn debyg oedd y pellter rhwng darllediad Saunders Lewis a diwedd yr ugeinfed ganrif. A fedrwn ni fod yn fwy gobeithiol na Saunders Lewis yn 1962? Yn sicr ni allwn fforddio anobeithio.

‘Wn i ddim pryd y daeth “Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid i bopeth newid” yn un o sloganau’r Gymdeithas. Tua dechrau’r 1990au, fe dybiaf, pan garcharwyd Alun Llwyd a Branwen Niclas. Mae hi’n slogan sy’n codi ei phen o dro i dro dros y blynyddoedd. Mae hi hefyd yn brawf o rym chwyldroadol y frwydr dros y Gymraeg.’

Treuliodd Dafydd Morgan Lewis dros chwarter canrif fel swyddog cyflogedig gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae’n olygydd tair cyfrol: Cymru yn Fy Mhen, Cerddi Powys ac Y Byd a’r Betws.