Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfres newydd gyfoes i helpu plant ddysgu darllen

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfres newydd sbon - cyfres o bum llyfr llun a gair i helpu plant ddysgu darllen. Mae Cyfres Celt y Ci (Y Lolfa) gan Rhiannon Wyn Salisbury a’r artist Elin Vaughan Crowley, wedi ei gosod ar fferm ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru.

Mae’r gyfres yn osgoi stereoteipio, yn gynhwysol ym mhob ffordd ac wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Daeth y syniad gwreiddiol yn ystod y Cyfnod Clo cyntaf, wrth i’r awdures Rhiannon Wyn Salisbury ddysgu ei mab, Llew, i ddarllen. Meddai Rhiannon, sydd yn gweithio fel Athrawes Cefnogi’r Gymraeg yng Ngheredigion:

“Fe sylweddolais fod angen amrywiaeth ehangach o lyfrau gwreiddiol Cymraeg a oedd yn cynnig ystod o destunau lliwgar a deniadol i blant wrth iddynt ddysgu darllen. Digwydd bod, fe ddysgodd Llew i ddarllen yn weddol ddidrafferth, gyda chymorth Sali Mali, Rala Rwdins a Ned y Morwr. Ond pe bai wedi ei chael hi’n anodd dysgu darllen, doedd dim dewis digonol ar gael er mwyn ymarfer a datblygu’n ddarllenwr annibynnol.”

Mae’r gyfres yn cynnig cyfleoedd trawsgwricwlaidd ac yn cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru yn ogystal â dysgu darllen.

“Mae’r testun yn defnyddio Cymraeg syml, sy’n atgyfnerthu sgiliau ffoneg gynnar ac yn cyflwyno’r plant i eiriau aml ddefnydd. Mae llawer o ail-adrodd brawddegol er mwyn cynorthwyo gyda gwreiddio geirfa hefyd. Tynnir sylw at eiriau anghyfarwydd a mwy cymhleth trwy ddefnyddio bocsys gair a llun. Cyflwynir y plant yn raddol bach i elfennau gramadegol megis yr atalnod llawn, coma, gofynnod ac ebychnod yn ogystal â dyfynodau.”

“Roedd gweithio gyda’r artist Elin Vaughan Crowley yn brofiad hollol hyfryd. Mae Elin wedi llwyddo i greu cymeriadau annwyl a fydd yn ddeniadol iawn i’r darllenwyr ifanc,” meddai Rhiannon Wyn Salisbury.

Mae tudalen o eiriau allweddol yng nghefn bob llyfr yn ogystal â chyfieithiad Saesneg sy’n rhoi cefnogaeth i rieni di-Gymraeg i ddarllen gyda’u plant.