Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

‘Cadwa’n driw i ti dy hun’ - Neges Caryl Lewis yn ei llyfr newydd i blant

Mae gwasg y Lolfa newydd ryddhau Guto a Dreigiau'r Nos gan Caryl Lewis. Dyma lyfr am fachgen ifanc sydd â ffrindiau anghyffredin, sef dreigiau amryliw ac amrywiol, ac mae ganddo feddwl mawr ohonynt, bob un. Yr unig broblem ydi, nid pawb sy'n gallu gweld y dreigiau hyn, ac mae cyfeillion Guto sy'n chwarae pêl dan y coed yn mynnu y dylai anghofio am 'ei ddraig wirion.'

Ond, mae Guto yn fachgen ffodus gan bod ganddo bobl yn ei fywyd sy'n dathlu ei ddychymyg byw, ac yn ei annog i greu bydoedd hyfryd a hudol yn ei ben. A phwy ŵyr? Efallai bydd Guto yn dod o hyd i rywun arall sydd â ffrindiau anghyffredin, hefyd, a bod modd i'w bydoedd uno ynghyd…

Llyfr wedi ei ysgrifennu'n annwyl ac ystyriol, gyda dyluniadau lliwgar a bywiog yn rhedeg ar y cyd â hynny. Mae'n ffrind cysurlon I’r plant hynny sydd wedi teimlo'n wahanol, ac mae'n dangos sut y gall teimlo fel 'arall' gael ei droi yn bŵer. Meddai’r awdur:

‘Ysgrifennais y stori am un o’r gloch y bore ar ôl gwylio fy mab yn syrthio i gysgu yn cofleidio ei degan, sef draig fach feddal. Mae ganddo ddychymyg byw, ond weithiau mae’n ei chael hi’n anodd i rannu’r dychymyg hwnnw. Stori gysurlon ydi hi am fod ychydig bach yn wahanol a’r pwysigrwydd o gadw’n driw i ti dy hun.’

Daw Caryl yn wreiddiol o Ddihewyd ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu. Enillodd Iawn Boi? Wobr Tir na n-Og 2004 ac enwyd ei nofel Martha, Jac a Sianco yn Llyfr y Flwyddyn 2005. Ers hynny, mae Caryl wedi ennill Llyfr y Flwyddyn ar gyfer Y Gwreiddyn (2017; Ffuglen), Y Bwthyn (2016; Ffuglen a phrif enillydd); Naw Mis (2010; Rhestr fer), Y Gemydd (2008; Rhestr hir). Mae hi wrth ei bodd yn ei hamser hamdden yn arlunio a bwyta Maltesers.

Mae Guto a Dreigiau’r Nos yn llyfr clawr caled, gyda darluniau hardd gan Carmen Saldana. Mae ar werth nawr (Y Lolfa, £9.99)