Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

'Angen mwy o ffuglen i ddysgwyr Cymraeg' meddai awdur a thiwtor Cymraeg i Oedolion

Mae awdur amlwg a thiwtor Cymraeg i Oedolion wedi dweud bod angen ‘mwy o ffuglen ar gyfer dysgwyr Cymraeg’.

 ‘Mae angen mwy o nofelau ar gyfer dysgwyr yn benodol, ond a fydd yn apelio at gynulleidfa ehangach na hynny hefyd’ meddai’r awdur Mared Lewis.

 Daw ei sylwadau yn sgil cyhoeddi’r nofel Fi a Mr Huws yr wythnos hon fydd yn addas ar gyfer dysgwyr.

 Yn y nofel, mae Lena ar groesffordd yn ei bywyd. Gyda'i hunig fab yn mynd i'r Coleg, mae'r nyth gwag yn llawn amheuon amdani hi ei hun a'i phriodas. Ond mae un ffrind newydd yn ei harwain i sawl cyfeiriad gwahanol ac at ddatgelu mwy nag un cyfrinach.

 ‘Mae unrhyw gyfnod o newid mewn bywyd yn medru arwain at ansicrwydd a chwestiynu, a dyma ydy sefyllfa Lena yn y nofel’ meddai Mared.

 Mae’r nofel, sydd yn hawdd i’w darllen a gyda geirfa ar bob tudalen, yn addas i ddysgwyr lefel uwch i fyny.

 Mae Mared yn croesawu'r cynllun newydd i ddarparu lyfrau ar gyfer bob lefel, cynllun gan y Cyngor Llyfrau fydd yn cyd-fynd â mabswyiadu safonau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. 

 ‘Yn fy mhrofiad i, mae dysgwyr yn awchu am ddarllen amrywiaeth o ddeunydd unwaith mae'r iaith yn dechrau cydio, ac mae ‘na brinder o stwff darllen wedi bod ar draws y lefelau i gyd. Mae hwn yn gam pwysig iawn yn y byd dysgu Cymraeg i Oedolion.’ meddai Mared.

 Mae Mared Lewis yn awdures boblogaidd, ac wedi cyhoeddi nifer o nofelau i oedolion a phlant. Mae hi’n diwtor Cymraeg i Oedolion hefyd. Cyrhaeddodd y nofel Maison du Soleil restr fer Llyfr y Flwyddyn. Mae’n byw ar Ynys Môn, yn briod ac yn fam i ddau fab.