Lansio Dyddiadur Dewi Llwyd - Pawb a'i Farn
Bydd y noson yng nghwmni Dewi Llwyd a Dylan Jones gyda chyfraniadau gan Marian Ifans ac eraill. Bydd cerddoriaeth fyw gan Delwyn Sion.
Bydd gwin a diodydd ysgafn ar gael. Mynediad am ddim a chroeso cynnes i bawb.
Pawb a'i Farn yw dyddiaduron y cyflwynydd adnabyddus Dewi Llwyd. Mae'r dyddiaduron wedi eu hysgrifennu yn ystod blwyddyn wleidyddol gythryblus 2017, o benderfyniad Theresa May i gynnal etholiad cyffredinol hyd at yr etholiad a thu hwnt.
Mae’r dyddiaduron yn rhoi cipolwg ar fywyd personol y darlledwr, ond hefyd gyffro’r byd gwleidyddol a darlledu yn ystod cyfnod. Ceir atgofion o droeon trwstan y byd darlledu ar hyd ei yrfa, yn atgofion melys ac anffodus, mewn dyddiaduron sy’n ffraeth, difyr a dadlennol. Ceir hanesion am gydweithwyr, am rai o’i westeion ar ei raglen ac ar fywyd yn gyffredinol. Cyflwynir cyffro noson etholiad o ochr arall y ddesg – swydd y mae wedi ei gwneud saith o weithiau hyd yn hyn.