Ers dros hanner can mlynedd bellach mae Toni Caroll wedi hawlio'i lle ar lwyfan bywyd. Yn gantores, actores a pherfformwraig o'r dechrau'n deg bu'n canu mewn clybiau yn ne-orllewin Cymru yn ei harddegau cyn symud i weithio yn Llundain a gogledd Lloegr. Dyma fenyw oedd am fynd yn bell - yn wir, aeth ei llwyddiant â hi mor bell ag Ewrop, y Caribî a De Affrica. Mae diddanu a pherfformio yn ei gwaed. Datblygodd Toni ei thalentau ymhellach a mentro i fyd comedi ac actio hefyd. Dyw hi ddim yn un sy'n aros yn ei hunfan ac yn bodloni ar beth sy gyda hi - mae'n edrych ymlaen at y sialens nesa bob tro. Mae Toni'n adnabyddus am ei delwedd glamorous, ac mae'n cyfadde ei hunan taw'r colur, y dillad a'r bling yw sylfaen ei hwyneb cyhoeddus. Felly beth sy'n digwydd pan ddaw'r colur hwnnw i ffwrdd? Sut daeth Carol Ann James o Gwmgiedd, pentre bach yn nghesail Cwm Tawe, yn un o berfformwyr amlyca a disgleiria Cymru? Cawn yr hanes am y tro cynta yn yr hunangofiant cynnes, gonest a theimladwy hwn.