Mae Juan Pablo'n ceisio cyrraedd yr Unol Daleithiau er mwyn dianc rhag tlodi affwysol ei famwlad yn America Ganol. Crwt cyffredin o dre fach yn Arisona yw Trace, sydd wrth ei fodd yn anturio gyda'i frawd, Alex. Mae gan y ddau gymeriad gwahanol yma un peth yn gyffredin - mae eu teithiau drwy fywyd yn syfrdanol o galed yn eu ffyrdd eu hunain. Does dim rheswm yn y byd pam y dylai eu llwybrau groesi, ond yn hwyr neu'n hwyrach fe fyddan nhw. A beth fydd effaith y cyfarfod hwn ar eu ffawd yn y pen draw?
Mae'r nofel gynhyrfus hon yn ein tywys o ddiffeithwch y ffin rhwng Mecsico ac America a'r trenau sy'n cludo ffoaduriaid fesul mil, tuag at Irac yng nghyfnod gwarchae Fallujah, ymlaen drwy goedwigoedd ysblennydd taleithiau de-orllewin America hyd at eithafion rhynllyd Alasga.
Yng nghwmni Juan Pablo a Trace, i un cyfeiriad yn unig yr awn ni - tua'r gogledd, wastad. Al norte...