Mae tref hynafol Caerfyrddin yn debyg iawn i unrhyw dref arall, gyda siopau cadwyn a marchnad, ond o dan y strydoedd prysur a thu ol i'r drysau parchus, mae Caerfyrddin arall yn bodoli.
Mae'r "Caerfyrddin amgen" yn dref sy'n llawn cyfrinachau, feis a brad, ond does yr un gyfrinach yn dianc sylw'r Carmarthen Intelligence; mae ei chynrychiolwyr dewr yn cadw llygad barcud ar y dref ac yn ei chadw hi, a Chymru gyfan, yn ddiogel rhag ei gelynion.
Tra bod trigolion y dref yn mynd o gwmpas eu pethau, mae'n arwyr ym mhencadlys y Carmarthen Intelligence, a'u cydweithwyr yn y Welsh Bureau of Investigation yn Abertawe, yn cyd-ymladd yn erbyn cabal sinistr.
A oes bradwr yn eu plith? Pam fod angen sheriff ym Myddfai? Ai Betti Williams sy'n gwneud brecwast gorau'r ochr yma i Langollen?