Pan fydda i'n astronot ac yn darganfod byd arall, mi fydda i'n sicrhau fod y byd hwnnw ar gyfer pawb sy'n meddwl ac yn ymddwyn fel fi.
Mae Rosie Alaw, 11 oed, yn dod ar draws llong ofod ar y llwybr ar ei ffordd adref o'r ysgol. Mae hi'n methu credu ei lwc, oherwydd mae hi wedi gwirioni ar bopeth sy'n ymwneud â'r gofod a'r sêr a'r galaethau a'r planedau sydd y tu hwnt i ddychymyg!
Pan mae Astronot a Ffred yn gofyn am help Rosie, mae hi'n mynd ar daith arallfydol anhygoel! Ond mae'n mynd ar daith i'w darganfod hi ei hun hefyd, a rhaid iddi fod yn ddewr a goresgyn nifer o broblemau.
Nofel annwyl, sy'n llawn antur, am bwysigrwydd teulu a ffrindiau ac am dyfu i fyny mewn byd heriol.