Dim ond naw oed oedd Gerald Morgan pan ddechreuodd gasglu llyfrau gyda'i arian poced. Erbyn hyn, mae'n berchen ar lyfrgell drawiadol a hynod ddifyr sy'n dweud cyfrolau am y dyn ei hun.
Er mai llyfrau Cymraeg sy'n mynd â'i fryd, fe'i magwyd ar aelwyd Saesneg yn Brighton, a chafodd ei brofiad cyntaf o bori mewn siop llyfrau Cymraeg y tu allan i Gymru, yn Siop Griffs yn Cecil Court yn Llundain.
Mae'r llyfr hwn yn llawn hanesion difyr am daith bywyd yn frith o lwyddiannau a siomedigaethau wrth iddo hel yr hyn sy'n dystion papur i iaith a diwylliant Cymru, ac mae'n adrodd stori gyfoethog y Cymro diddorol hwn.