Poeri i Lygad yr Eliffant
Anturiaethau'r Saint Cymreig yn y Gorllewin Gwyllt
Pwy oedd y 5,000 o arloeswyr o Gymru a deithiodd i'r Gorllewin Gwyllt yn y 19eg ganrif? Am y tro cyntaf, cawn ymuno â siwrne gyffrous y Mormoniaid Cymreig a groesodd y paith a'r Rockies i Ddinas y Llyn Halen gyda wageni ag ychen. Fel pob stori antur dda, mae yna ddewrder ac ofn, cynnwrf a thorcalon ar hyd y daith. 70 llun.