Dyma hanes difyr, dwys a doniol sy'n crisialu cyfraniad un o'r prif fudiadau Cymraeg ei iaith a chanddo 280 o ganghennau a 7,000 o aelodau. Dros y degawdau mae Merched y Wawr wedi cynnig cyfleoedd i fenywod gymdeithasu, arfer eu doniau, lobïo, codi arian ac ymfalchïo yn y Gymraeg.
Ar ffurf cyfres o erthyglau amrywiol gan aelodau amlwg a lluniau lliw cyflwynir yr hanes ers y cychwyn yn 1967 hyd heddiw. Dengys bod llawer mwy i'r mudiad hwn na phaned a phice bach, wrth i Ferched y Wawr arwain y ffordd o ran ymgyrchu a chodi arian mewn meysydd yn ymwneud â'r iaith, ysgolion meithrin, dysgwyr, S4C a phrosiectau ar gyfer pobl dan anfantais ac er budd menywod yng nghefn gwlad Cymru ac yn y Trydydd Byd.