Ydwyf. Nid yw'n air y bydd crwt o'r Bont yn arfer ei ddefnyddio. Ond dyna'r union air a ddefnyddiodd John Meredith i gyflwyno'r newyddion mwyaf arloesol yn hanes diweddar Cymru.
Fel y darlledwr o Gaerfyrddin ar noson refferendwm 1997, fe rannodd â'r genedl y wybodaeth gyfrinachol fod mwyafrif pleidlais "Ie" Sir Gaerfyrddin yn ddigon i gipio buddugoliaeth fythgofiadwy i Gymru. Daeth y foment ei hun yn un hanesyddol, ac yn y gyfrol hon ceir darlun rhyfeddol o sut y daeth y darlledwr yn rhan ganolog o stori'r Senedd Gymreig.
Ond un bennod yn unig yw'r noson honno ym mywyd diddorol ac amrywiol John Meredith. Ceir darlun hyfryd yma o fywyd pentrefol Cymraeg y Bont cyn newid ym mywyd cefn gwlad; ceir hefyd ddarlun o fywyd Cymry Llundain yn gwerthu llaeth ar ôl y rhyfel; heb sôn am straeon di-ri am fyd y bêl gron yng Ngheredigion a thu hwnt.
Ychydig sy'n gwybod i John hefyd fod yn wyddonydd, gan wneud gwaith pwysig yn datblygu bioleg y gell cyn iddo droi at yrfa ym myd darlledu - gyrfa a ddaeth i ben yn 2010 wedi degawdau o grwydro Cymru yn cyflwyno straeon bach a mawr i'r genedl, ond gyrfa a gaiff ei chofio hyd byth am y wên foddhaus a roddodd wybod i bawb "yr enillwyd y Cynulliad".