Cyhoeddi gyda'r LolfaMae'r Lolfa yn gwmni annibynnol, masnachol sy'n cyhoeddi rhychwant eang o lyfrau poblogaidd a llenyddol. Rydym yn ymfalchio yn ein profiad o farchnata, hysbysebu a dosbarthu, ac yn ein hagwedd broffesiynol at awduron. Rydym yn talu breindaliadau'n brydlon ddwywaith y flwyddyn, gan drosglwyddo unrhyw grantiau dyledus yn llawn i'r awdur, ac unrhyw daliadau hawlfraint. Rydym yn croesawu llawysgrifau gan awudron yn y categoriau canlynol: 1. Nofelau cyfoes 2. Cofiannau poblogaidd 3. Llyfrau deniadol i ddysgwyr Cymraeg 4. Llyfrau difyr (ac nid rhy hir!) yn cyflwyno Cymru i ymwelwyr 5. Llyfrau gwreiddiol, bywiog i blant o bob oed – yn arbennig cyfresi. Ni yw'r unig wasg yng Nghymru sy'n gwrthod cyhoeddi addasiadau fel mater o bolisi. 6. Hiwmor yn Gymraeg a Saesneg 7. Llyfrau celf uchelgeisiol ond eang eu hapêl, e.e. Byd Aneurin, ffotograffau John Thomas. Rydym hefyd yn cyhoeddi cerddoriaeth, ychydig o farddoniaeth, a llyfrau hanes poblogaidd. Credwn hefyd mewn cyhoeddi rhai llyfrau sy'n symud y ddadl wleidyddol ymlaen yng Nghymru, e.e. Hawl i'r Gymraeg. Rydym yn hefyd yn cyhoeddi rhai cyfresi o lyfrau addysgol o dan gynlluniau arbennig lle byddwn ni, fel gwasg, yn comisiynu gwaith gan awduron profiadol. Dylai awduron gysylltu yn y lle cyntaf â Lefi Gruffudd, ein Golygydd Cyffredinol (lefi@ylolfa.com). Dylai'r awdur amgau: 1. Crynodeb o'r llyfr, naill ai fel tudalen gynnwys, neu fel 1 tudalen A4 (yn achos ffuglen) 2. Hyd y llyfr mewn geiriau/tudalennau 3. Enghraifft o un bennod 4. Manylion am unrhyw luniau neu ddiagrammau Os bydd gennym ddiddordeb, byddwn yn gofyn am gopi llawn gennych o'r llawysgrif, ar bapur, ac wedyn yn trafod eich cais mewn Pwyllgor Golygyddol sy'n cynnwys Golygyddion Y Lolfa (Alun Jones, Meinir Edwards a Chyfarwyddwyr y Cwmni, gydag Eirian Jones a Gwen Davies yn achos llyfrau Saesneg). Os byddwn yn derbyn eich llawysgrif, byddwn yn rhoi taflen o gyfarwyddiadau technegol i chi ar sut i gyflwyno'r gwaith terfynol. Dylem eich rhybuddio bod yr holl broses gyhoeddi, sy'n cynnwys golygu, dylunio a hyrwyddo, yn gallu cymryd tua blwyddyn ar gyfartaledd, hyd yn oed â llyfrau gymharol syml. Mae llawer iawn o'n llyfrau (ond nid, er enghraifft, ein llyfrau i ymwelwyr) yn derbyn grant, fel arfer trwy'r Cyngor Llyfrau. Ond mae yna rai achosion (e.e. llyfrau lleol) lle nad yw grant yn bosibl, hyd yn oed ar gyfer llyfrau teilwng sydd â marchnad amlwg ar eu cyfer. Mewn achosion fel hyn, os nad yw'n debyg y gallwn adfer ein costau mewn cyfnod rhesymol, mae gennym gynllun lle rydym yn gwahodd cyfraniad gan yr awdur tuag at y costau cynhyrchu. Yn gyfnewid am hyn, fe gaiff yr awdur freindal uwch na'r cyffredin, a gwarant o gadw'r llyfr mewn print. Nodir yr holl delerau mewn Cytundeb Cyhoeddi a gaiff yr awdur ar ddechrau'r broses gyhoeddi. Yn naturiol gallwch drafod y cyfan yn fanwl gyda'n Golygydd Cyffredinol. Edrychwn ymlaen at glywed gennych. Wedi dros ddeugain mlynedd o gyhoeddi, mae gennym bellach bron i 500 o awduron ar ein rhestrau. Ymunwch â'r criw llawen! Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE +44(0) 1970 832 304 |
rhowch fi ar e-restr Y Lolfa Newydd!
|





