Reviews
To learn more about this novel, go to: https://parallel.cymru/dana-edwards-am-newid/
Nofel hynod o ddarllenadwy... Yn sicr, mae Dana Edwards yn awdur sy'n gwybod yn iawn sut i saernio stori a datblygu cymeriadau.
- Lleucu Roberts
Mae gan yr awdur glust fain at sgwrs ac mae'r stori'n llifo'n rhwydd braf, yr holl ffordd at ddiweddglo annisgwyl o ddramatig.
- Gwenan Mared, Barn
Cylchlythyr CymDawn dweud gan yr awdur a'r stori yn llifo'n rhwydd. Mae Dana yn ysgrifennu yn ddifyr. Mae'r stori yn gafael a chefais fy nhynnu mewn iddi - mi gipiodd fy sylw o'r dudalen gyntaf i'r gair olaf.
- Tri ar y tro, Cylchgrawn Golwg
Dyna un o gampau mwyaf Dana Edwards, mae'n llwyddo i greu llu o gymeriadau difyr... Ond nid pobl yn unig y mae'n eu darlunio, mae'n darlunio cymdeithas wledig yn ei chyfanrwydd yn fyw a bywiog. Yn naturiol mae dychweliad Ceri i'r ardal yn codi cwestiynau ac yn ysgogi pobl i ymateb mewn ffyrdd gwahanol, yn wir mae bron â rhannu'r Gangen. Llwyddodd yr awdur i gyfleu agweddau amrywiol pobl yr ardal yn effeithiol iawn, heb fod yn rhy lawdrwm ar neb...
- Beryl Griffiths, Gwales
Trwy gymeriad Ceri llwydda'r awdur i ymdrin â'r pwnc [pobl traws] mewn ffordd sensitif a deallus, gan drafod yn llon a'r lleddf yn ei bywyd
- Y Stamp