Mary Annes Payne
Mae Mary Annes Payne yn enedigol o Frynsiencyn ac yn gynddisgybl Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Graddiodd gydag anrhydedd o Goleg Normal Bangor mewn Addysg a Llenyddiaeth Saesneg. Bu'n athrawes mewn ysgol gynradd yng Nghaergybi cyn symud i'r Alban a gweithio fel tiwtor Saesneg ail iaith i ffoaduriaid o Fietnam ac yna i blentyn o Nigeria. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n athrawes dros dro mewn ysgolion yn Sir Drefaldwyn ac Ynys M�n. Hyfforddodd fel athrawes ddyslecsia a threuliodd gyfnodau'n dysgu plant ag anghenion arbennig cyn mynd ati o ddifri i ysgrifennu. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Hogyn Syrcas gyda Gwasg Gomer yn 2003 ac fe ddaeth yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tyddewi yn 2002. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau, 2007 gyda'i nofel, Rhodd Mam. Mae'n briod � Gareth ac mae eu plant, Emyr ac Olwen, yn eu harddegau.