Reviews
Nofel wych tu hwnt! Unigryw. Rhyfeddol. Yn gweddnewid tirwedd y nofel Gymraeg - a'i phosibiliadau. Sdim un frawddeg wan ynddi. Mae'n rhyfeddod. Ac mae'n cynnal ei rhyfeddodrwydd drwyddi draw.
- Tony Bianchi
Dyma nofel sy'n anturiaeth – ac yn antur ym myd iaith. Mae'n hoelio sylw, yn hawlio ymateb. Dyma waith gwefreiddiol o flaengar gan un o'n nofelwyr mwyaf amryddawn.
- Jason Walford Davies
Nofel gynhyrfus, hoffus, chwyldroadol.
- Angharad Price
Llongyvarxiadau i Jerry Hunter am Ebargofiant - nofel gwbl anhygoel. Sgwenyddiaeth ar ei ora.
- Manon Steffan
Gwych, gwreiddiol a gwahanol iawn.
- Geraint Lovegreen
Wy yw'r nofel hon, gyda phlisgyn trwchus... o ddyfalbarhau gellid cael mynediad at y melynwy hynod flasus y tu mewn. Dydw i ddim am ddweud gormod am y melyn wy sydd y tu mewn i'r plisgyn - y byd, y plot, y cymeriadau, a'r themâu. Digon yw dweud fy mod i'n torri bol eisiau trafod y cyfan gyda rhywun arall sydd wedi profi'r cyfan! Mae yna sawl dirgelwch o fewn y plot i gnoi cil arnynt, ac rwy'n credu y bydd y themâu canolog yn destun dehongli a thrafod am amser hir iawn. Dyma nofel sydd wedi rhoi archwaeth newydd i mi am lenyddiaeth Gymraeg. Nofel hollol unigryw, na fyddai wedi gallu bodoli mewn unrhyw iaith arall.
- Ifan Morgan Jones
Dyma nofel wreiddiol, chwyldroadol, a chraff. Mae'n herio ac yn swyno'r darllenydd: yn trawsnewid yr iaith Gymraeg gyda'r orgraff newydd, ond yn creu cymeriadau agos-atoch-chi a hoffus yn yr un modd. Darn o lenyddiaeth gwirioneddol arbrofol sy'n cyfoethogi'r canon Cymraeg.
- Dr Elen Ifan
Mae 'Ebargofiant' yn siwr o fod yn mynd i fod yn 'hot tip' ar gyfer Rhestr Llyfr y Flwyddyn flwyddyn nesa'. Mae'n nofel mor gyffrous, arloesol, mentrus, anodd ar ryw lefel... ond llawn hiwmor. Mae beiddgarwch Jerry a'r ffordd mae wedi mynd ati i drawsnewid y ffordd ry'n ni'n gweld pwrpas darllen wedi agor pennod newydd yn ein llenyddiaeth ni.
- Bethan Mair, cylchgrawn Golwg
Mae 'Ebargofiant', Jerry Hunter yn arbennig o nofel.
- Lleucu Roberts, cylchgrawn Golwg
Mae'r prif gymeriad, Ed, yn byw rywbryd yn y dyfodol. Ac yn dilyn chwalfa ecolegol (posibilrwydd sy'n erchyll o gredadwy), mae'n gorfod dysgu byw o'r newydd. Ac yn union fel y dyn cyntefig gynt, mae e'n mynd ati i ddechrau ysgrifennu... Mae'r syniad yn un hynod wreiddiol. Bûm yn dyfalu droeon sut deimlad fu e i'r dyn cyntaf osod marc bwriadol ar garreg, darn o bren neu dabled o glai. Mae un marc yn troi'n ddau, a'r rheiny'n farciau gwahanol nes llunio gwyddor a geirfa. Y gallu i ysgrifennu, mae'n rhaid gen i, oedd darganfyddiad pwysicaf dynoliaeth. Am y deg neu'r ugain tudalen agoriadol cefais gryn drafferth i ddilyn yr orgraff. Ond yn araf fe ddisgynnodd y llythrennau i'w lle gan ddarparu profiad unigryw.
- Lyn Ebenezer, Gwales
[Nofel] anodd ei ddisgrifio, ac mae'n dipyn o brofiad i'w ddarllen. Gwerth yr amser.
- Lico Llyfre Lot
Y llyfr gorau dwi wedi ei ddarllen erioed yn Gymraeg. Llyfr cwbwl chwyldroadol…
- Tony Bianchi, Radio Cymru