Reviews
"408 amazing pages charting one woman's life and friendships through the recipes she collected... My favourite line was about half way through, when the narrator was talking about a new recipe that had been introduced to the village. It went something like "it was like a new colour had been added to the world". Which is pretty much how I've felt while reading the book which opened the door for me to a completely different literary tradition.
- Steve, Say Something in Welsh forum
Mewn byd lle mae greddfau naturiol yr unigolyn yn pylu, mae hon yn nofel sy'n ymdrin â sawl ysfa gyntefig sy'n ddwfn yn y ddynoliaeth.
- Catrin Beard
"Hwn yw un o'r llyfrau gorau ddarllenais i erioed. Yn fy marn i, mae'r llyfr ar yr un safon â 'Captain Corelli's Mandolin' neu 'The Book Thief'... Dyma lyfr dwi eisiau ei rannu gyda fy ffrindiau! Mae'n rhaid bod Manon Steffan Ros yn un o awduron newydd pwysicaf Cymru."
- Mrs Linda Thomas, darllenydd
Nofel synhwyrus, ddyfeisgar ac ingol o sensitif… Llond llwy fwrdd o Caradog Prichard felly, llwy bwdin o Kate Roberts, sbrinclo mymryn o awduron mwy cyfoes dros y cyfan, ond yn bennaf llond popty o lais hyfryd, sensitif ond chwerwfelys Manon Steffan Ros.
- Gwenan Mared, Cylchgrawn Barn
Mae Blasu yn stori emosiynol llawn gwewyr, gobaith, bywyd a bwyd.
- Barry Thomas, Golwg360
"Roedd y profiad o ddarllen Blasu yn un chwerw-felys. Mae i'r gyfrol ei themâu tywyll ac ysgytwol yn ogystal â llawenydd a phrofiadau melys. Mae arddull gryno ac iaith liwgar a chyfoethog yr awdur wedi sicrhau fod hon yn stori fydd yn aros yn hir yng nghof y darllenydd. Cefais flas anghyffredin ar ddarllen hon – mwyhewch!"
- Janet Roberts, Gwales
Ni allaf canmol y llyfr 'ma digon. Trist ac ingol, hefo cymeriadau neith aros efo fi am amser hir.
- nic_writes, Instagram
Campwaith.
- Mared Llywelyn, Llanw Llyn
"Dathliad o fywyd yw'r nofel, a hoffais yr arddull yn fawr... Dod i adnabod Pegi, y prif gymeriad, a hynny thrwy lygaid aelodau o'i theulu, cyfeillion neu gymydog. Mae'r ysgrifennu yn grefftus iawn, ac mor ddarllenadwy.Daw cymeriad Pegi a'r cymeriadau eraill yn fyw drwy ryseitiau traddodiadol, personol i ardal a phobl Llanegryn."
- Lisa Markham, Llyfrgell Tywyn
"Dyma wledd o nofel... Mae Manon Steffan Ros yn un o lenorion mwyaf synhwyrus ein llên gyfoes, ei dawn ddisgrifio a'i chlust at ddeialog heb eu hail. Mae 'Blasu' yn sicr yn codi awch am y saig nesaf."
- Sioned Williams, Taliesin
Mae'r cymeriadau yn rhai difyr, y plot yn gafael, yr arddull yn synhwyrus a'r cyfan yn rhoi mwynhad. Be arall fedr rhywun ofyn amdano?
- Angharad Tomos, Yr Herald Cymraeg
Wir i chi, mae'n chwip o nofel!
- Bethan Gwanas, Yr Herald Gymraeg