Reviews
Dyma ffordd hollol wahanol o adrodd 'stori fy mywyd'. Mae anwyldeb y geiriau a'u trywydd yn lapio am y dyddiau blin. A'r anwyldeb sy'n cario'r dydd. Cyfrol sydd yn y diwedd yn foliant i fywyd.
- Aled Jones Williams
Bydd yr hunangofiant pwerus yma yn helpu eraill brosesu a gwneud synnwyr o'u profiadau yn y byd yma.
Dewr, bregus a grymusol.
- Non Parry
Darllenais. Arfais a theimlais eiriau Iola Ynyr yn treiddio wrth ddarllen 'Camu'.
Nid llifeiriant bywgraffiadol gawn ni yma ond datgymaliad o atgofion a hynny yn ei dro yn help i'r awdur, a ninnau brosesu teimladau a phrofiadau ei bywyd.
- Meleri Davies
Darllenais. Arafais, a theimlais eiriau Iola Ynyr yn treiddio wrth ddarllen Camu. Nid llifeiriant bywgraffiadol gawn ni yma ond datgymaliad o atgofion a hynny yn ei dro yn help i'r awdur, a ninnau, brosesu teimladau a phrofiadau ei bywyd... Wrth orffen darllen dwi'n teimlo'n llawn edmygedd - nid yn unig o safbwynt yr hyn mae hi wedi ei oroesi, ond o ran ei dewrder wrth gyflwyno hunangofiant creadigol sydd hefyd yn llyfr a fydd yn helpu eraill i 'gamu i mewn' iddyn nhw'u hunain.
- Meleri Davies, Cara
Mae 'sgwennu gyda'r fath onestrwydd yn cymryd lot fawr o wydnwch a dewrder... Mae e werth ei ddarllen.
- Dafydd Llewelyn, Podlediad Colli'r Plot
Cyfrol a hanner... Os wnewch chi blymio mewn iddi rwy'n gwybod fyddwch chi methu ei rhoi hi lawr.
- Ffion Dafis, Rhaglen Ffion Dafis, BBC Radio Cymru
Llyfr gwirioneddol wych, twymgalon, gonest, llawn cariad a chymhlethdod. Heb ddarllen dim byd tebyg o'r blaen, a dwi methu stopio meddwl amdano.
- Manon Steffan Ros, X