Reviews
Rhedeg i Parys is a prime example of the work of one of Wales' best-loved authors, who has a unique ability to reflect our society back at us through his own distorted fairground mirror. The story is funny, tragic and thrilling in equal measures
- Jon Gower, Nation.cymru
Chwip o nofel sy'n mynd â'r darllenydd ar daith igam-ogam ar draws Cymru. Stori wefreiddiol arall gan awdur mwyaf darllenadwy Cymru
- Ifan Morgan Jones
Mae Llwyd Owen wedi saenïo gem fechan – 'Pulp Fiction' deallus a difyr sy'n mynd ar wib o Fôn i Gaerdydd i Aberaeron. Ac i ddarllenwyr sydd heb ddarllen ei waith o'r blaen mae'r nofel hon yn fan cychwyn da i fyd heddlu Gerddi Hwyan.
- Arwel Vittle, Cylchgrawn Barn
Mae dawn adrodd stori Llwyd yn amlwg yn y nofel hon, gyda disgrifiadau manwl i'ch tynnu i ddyfnderoedd tywyll Gerddi Hwyan, ond hefyd gyda chyffyrddiad ysgafn ei hiwmor clyfar yn taro ychydig o oleuni i ganol trybini'r cymeriadau. Os nad ydych chi wedi mentro i fyd peryglus Gerddi Hwyan mae'r cyntaf o drioleg Sally Morris yn fan perffaith i ddechrau arni!
- Llowciollyfrau_hmh, Instagram
Mae'r ddeialog yn gryf, yr arddull yn ffilmig, a'r chwarae ar eiriau ac iaith yn nodweddiadol ffraeth. Parhau mae'r boddhad i ddarllenwyr selog hefyd o ddarganfod y cysylltiadau rhwng y nofelau wrth i'r gyfres ddatblygu, aeddfedu a thynhau. Dechrau addawol, fe dybiwn i, i yrfa Ditectif Sally Morris, Gerddi Hwyan.
- Casi Dylan, O'r Pedwar Gwynt
Mae yna gylch boddhaol i blot nofel ddiweddaraf Llwyd Owen... Yn ogystal â stori antur dywyll, mae comedi tafod-mewn-boch yn adtblygu wrth i wahanol fydoedd y nofel glatsio â'i gilydd... Mae'r ddeialog yn gryf, yr arddull yn ffilmig, a'r chwarae ar eiriau ac iaith yn nodweddiadol ffraeth.
- Casi Dylan, O'r Pedwar Gwynt
Fel darllenydd ffyslyd ac anodd fy mhelsio, rwy'n ymddiried yn Llwyd Owen fel nofelydd ers i mi ddarllen ei nofel gyntaf, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau. Llwydda bob amser i fachu fy sylw o'r dechrau deg...[mae] 'na stori dditectif wefreiddiol a chyffrous yn [Rhedeg i Parys]... llwydda'r awdur hwn i fynd i'r afael yn eofn, unwaith eto, ag agweddau mwyaf dychrynllyd, treisgar a gwyrdroëdig ein cymdeithas..."Classic Llwyd Owen".
- Non Mererid Jones, Western Mail Weekend Magazine