Reviews
os dach chi'n caru anifeiliaid, tua 7-11 oed, ac yn hoffi stori sy'n cydio yn eich dychymyg ac yn gwneud i chi ysu i droi'r tudalen i weld be sy'n digwydd nesaf, dyma'r nofel i chi! Mae 'na hiwmor hyfryd yma, a llwyth o ddigwyddiadau… Clincar!
- Bethan Gwanas, Blog lyfrau Bethan Gwanas
Mae'r nofel yn llawn gwybodaeth am anifeiliaid – e.e. sawl stumog sydd gan jiraff, hanes eirth yr Andes, sut mae cangarŵ yn ymolchi. Ond nofel amlhaenog yw hon sy'n ymdrin hefyd â materion fel bwlio, hiliaeth a chadwraeth... Mae'r stori'n hwyliog ac ar yr un pryd yn ymdrin â phynciau pwysig heb bregethu na chwaith siarad i lawr at blant. Penigamp!
- Helen Angharad Evans, Cylchgrawn Barn
Dyma'r nofel gyntaf i [fi ddarllen gyda fy merch] felly ro'n i'n disgwyl byddai'r pennodau hir yn ychydig yn heriol iddi - ond na, mae hi'n wrandawr selog, ac wedi mwynhau'r stori gymaint dydw i ddim yn cael darllen y bennod olaf eto, achos dydy hi ddim am iddi orffen!
- Rebecca Roberts, Facebook
Dwi'n meddwl fod y llyfr yn wych, ac yn un oedd wir ei angen. Dyma lyfr cyfoes, sy'n cymryd cam yn y cyfeiriad cywir er mwyn adlewyrchu Cymru amrywiol a chynwysedig heddiw yn llawer gwell. Mae'n holl bwysig fod plant yn gallu 'gweld eu hunain' mewn llenyddiaeth ac mae hwn yn llyfr perthnasol iawn. Gall weithio fel stori i'w fwynhau wrth ddarllen er pleser, ond dwi'n meddwl fod iddo fuddion addysgiadol hefyd, fel sbardun drafodaeth neu fel nofel sydd wrth wraidd uned o waith.
- Morgan Dafydd, Son am Lyfra
Mi wnes i gwynhau darllen y nofel hon yn fawr iawn. Mae hi'n stori hyfryd am sut mae merch o'r ysgol gynradd – Sara Mai – yn ddibynnol ar y sw a'r anifeiliaid i'w chadw yn hapus
- Elin Williams, 12 oed, Tudalen Cyngor Llyfrau ar wefan AMAM