Reviews
Stori syml ar yr wyneb am deulu yn mynd ar wyliau carafanio. Ond mae yma stori fawr am fywyd a marwolaeth, am ddynoliaeth, am wrywdod, am yr hil. Nofel heriol, arbrofol, ddoniol, emosiynol, hawdd i'w darllen, ac anesmwyth.
- Dyfed Edwards
Hanes teulu sydd yma. Nid oes stori fawr i'w dweud, does dim digwyddiadau ysgytwol, newid-bywyd. A dyna fawredd y nofel: sylwadau craff sydd yma am y natur ddynol, am ddyheadau, disgwyliadau, ofnau, am ein stad fydol, fregus. Mae'n nofel onest, yn glyfar, yn ddeifiol – weithiau'n hiraethus – ac yn ei chwmni, cefais blyciau o chwerthin yn uchel, o nodio a phorthi, o dristau, ac anobeithio, ond yn ei chwmni hefyd cefais brofi rhyddiaith ar ei gorau.
- Haf Llewelyn
Dyma nofel wirionoeddol wych
- Llwyd Owen
"...awdur gogleisiol, medrus, craff... Mae Guto Dafydd yn rhoi ei fys yn ddi-feth ar lawer o fân angstau ei gynhedlaeth, ei ddosbarth a'i bobl."
- Dylan Iorwerth, Cylchgrawn Barn
"Nofel hollol wych, gwneud i mi chwerthin yn uchel ac ystyried ambell beth dwysach hefyd."
- Angharad Mair, Trydar
"Wedi dechra darllen hon bore 'ma – methu'i rhoi lawr!"
- Shoned Wyn Jones, Trydar
"Cyn dod yn ddyn statig bues inne hefyd yn llusgo carafan am 25 mlynedd heb fod yn gallu refersio. Mae'r stori ma yn dipyn mwy na hanes teulu ifanc yn Carafanion ... mae'n ddrych o fywyd gan awdur sylwgar a dawnus."
- Wynne Melville Jones, Trydar
"Gyda hiwmor ffraeth a digon o ddeunydd meddwl yn britho'r gyfrol, efallai nad oes yma gyffro, ond mae digonedd o ddifyrrwch."
- Catrin Beard, Y Silff Lyfrau, Wester Mail Weekend