Reviews
Taith wyllt i berfeddion byd sy'n troi o dan ein trwynau. Ffyrnig, ffraeth a chyhyrog. Mae Iwcs yn ninja o nofelydd.
- Rhys Ifans
"Rydw i newydd orffen Dal y Mellt gan Iwcs ac roedd o'n wych. Mae ganddo fo ddawn dweud."
- Carys Gwilym, Golwg
"Dyma i chi beth yw cynnig cyntaf trawiadol. Clamp o nofel am bobl y cysgodion, a hynny mewn iaith a thafodiaith sy'n rhywiog a chyhyrog mewn arddull ystywth sy'n llifo o'r dechrau i'r diwedd."
- Lyn Ebenezer, Gwales
Nofel ardderchog... Mae'r stori yn carlamu ymlaen.
- Bethan Mair, Prynhawn Da
"Hedfanodd yr oriau, diflannodd y dydd! Cyfoethogwyd silff y nofelau ffraeth a chyffro @YLolfa Gwrth arwr newydd y sîn yw Carbo yn ddi-os!"
- Mr Ion Thomas, Trydar
Waw! Ia wir waw ydi'r ansoddair sy'n cyfarth ac udo i ddisgrifio nofel Iwcs. Cyffrous, bywiog a'n symud yn gyflym fel y mellt yn ei theitl. Stori heist wych a'i hiaith naturiol hi'n dawnsio'n chwareus dros y tudalenna!! Ma'r hogyn yn gallu sgwennu! Blydi grêt!!
- Dafydd Emyr, Trydar
Nofel sy'n llawn dop o gangstars, cyffro a hiwmor… darllenwch hon ar bob cyfrif.
- Mared Llywelyn, Y Cymro