Reviews
"Trais, anwyldeb, tlodi a chyfeillgarwch – dyma nofel rymus, ddinesig, a wnaeth i mi ddal f'anadl o'r dechrau i'r diwedd. Mae Cynan yn awdur cyffrous."
- Manon Steffan Ros
"Mae'r sgwennu yn glir, yn fywiog ac yn llawn hiwmor... Ro'n i wrth fy modd efo hi, oherwydd y cyffro a'r perygl sydd ynddi yn sicr, ond hefyd oherwydd yr anwyldeb a'r caredigrwydd a'r cariad. Clincar o nofel."
- Bethan Gwanas, Blog lyfrau Bethan Gwanas
"Er mai nofel fer yw Tom, mae yma gyfoeth o themâu yn brigo i'r wyneb a digon i'w drafod. Mewn gair – gwych!"
- Ion Thomas, Cylchgrawn Barn
yn fy marn i mae'n lyfr arbennig ac mae angen i bawb ei ddarllen. Mae'r llyfr yn cynnwys llawer o themâu pwysig sydd yn hanfodol i wybod mewn bywyd er enghraifft tlodi, cymdogaeth, cyffuriau a hiliaeth.
- Catrin Edwards, Llyfrgelloedd Cymru
Dwi'n mwynhau darllen, ond ddim yn aml dwi'n mwynhau nofel cymaint â hon. Mae'n swnio dipyn bach yn cliché, ond roedd hi wir y amhosib rhoi hon i lawr. Tydi hi ddim fel unrhyw beth dwi wedi'i ddarllen yn y Gymraeg o'r blaen.
- Morgan Dafydd, Son am Lyfra
"Mae Cynan Llwyd wedi cyhoeddi nofel o'r enw Tom ac mae'n RAID i chi ddarllen. Mae o'n hollol gyfareddol a does 'na ddim byd tebyg ar gael mewn unrhyw iaith. Gafaelgar, anturus, dychrynllyd- ac yn cyfuno awyrgylch dinesig efo teimlad cwbl Gymreig. Bravo Cynan!"
- Manon Steffan Ros, Trydar
"Newydd orffen darllen Tom, nofel gyntaf Cynan Llwyd. Ardderchog a 'unputdownable' ('ffaeluroilawradwy' awgrymodd rhywun!)... Clawr gwych gan Rhys Aneurin. "
- Matt Spry, Trydar