Reviews
To learn more about this book, go to: https://parallel.cymru/gareth-thomas-myfi-iolo/
Llythyr o fawl i ddewin hanesyddol
- Jon Gower
Llwyddwyd i blethu'r holl elfennau ynghyd gan ail-greu nawr y cyfnod yn grefftus ac yn argyhoeddiadol ac mae'r cyfan yn seiliedig ar ymchwil trwyadl.
- A. Cynfael Lake, Barn
Mwynhau yn fawr iawn. A mwynhau'r Gymraeg barddol! Mae'n eich swyno chi i barhau i ddarllen. Mae'n raenus.Methu ei roi i lawr. Mae hanes bywyd Iolo Morganwg yn ysbrydoli. Mae'r llyfr wedi trawsnewid y ffordd dw i'n edrych ar y dyn. Roedd yn Gymro i'r carn ac roedd yn ymdrechu yn erbyn tlodi, a chaethwasiaeth ac mae'n haeddu llawer iawn mwy o barch nag y mae'n ei gael.Fe wnaeth i mi feddwl eto am Iolo Morganwg. Mae'n hen ystrydeb ein bod ni fan hyn fel Aelodau Plaid Cymru yn y Cynulliad yn sefyll ar ysgwyddau cewri'r gorffennol - mi alla i ychwanegu Iolo Morganwg fel un o'r cewri yna nawr, gan fod yr hanes yma wedi dadlennu ei wir hanes.
- Dr Dai Lloyd, AC, Cylchgrawn Golwg
Mae cryn gamp ar y gwaith o ran strwythur. Mae'r naratif, o ganlyniad, yn symud yn gyflym, gan greu argraff dda o brysurdeb bywyd Iolo, ac ehangder syfrdanol ei orwelion. Dengys yr awdur gryn ddychymyg a dyfeisgarwch wrth lunio golygfeydd, gan roi cig a gwaed ar lawer o gymeriadau nad ydynt ond enwau moel yn y ffynonellau. Mae hon yn nofel grefftus a gafaelgar, a gobeithiaf yn fawr y bydd modd i'r awdur gyhoeddi dilyniant iddi.
- Geraint Phillips, Gwales
Mae 'ffuglennu' bywyd Iolo Morganwg yn arbennig o briodol. Darlunnir bywyd cynnar Iolo yn y gyfrol hon trwy gyfrwng cyfres o olygfeydd ffilmig, a thafodiaith Morgannwg yn drac sain iddi. Rydym yn gweld 'yn lled glir y bobl a'r cynefin a foldiodd ei fywyd e.' Mae'r golygfeydd ar hyd y siwrne yn fyrlymus a difyrrus. Does dim diffyg esboniad a chyd-estyn i gyfeirio'r darllenwr.
- Jeremy Miles, O'r Pedwar Gwynt
"Buaswn i yn ei argymell i bawb o bob cwr o Gymru.... Rydw i'n falch iawn o gael y cyfle i ddarllen y llyfr yma o glawr i glawr, ac yn hapus tu hwnt i ddarganfod bod yna lawer, lawer yn fwy i Iolo Morganwg na 'mond lawdanwm, Steddfod ac ambell i ffraethineb."
- Wyn Williams, Y Cymro