Reviews
WELSH speakers with an interest in literature and left politics will find much material to ponder over in this impressively researched volume on the life of TE Nicholas (1879-1971) by Hefin Wyn.
- Gwyn Griffiths, Morning Star
Bydd i'r cofiant hwn le anrhydeddus ar fy silff lyfraua c rwy'n gwybod y byddaf yn ei ailddarllen lawer tro i gael fy ysbrydoli gan eiriau a hanes y dyn a gafodd gymaint o ddylanwad ar fywyd a gwaith Waldo.
- Emyr Llywelyn
Gwnaeth Hefin Wyn gymwynas fawr â ni drwy 'sgrifennu'r cofiant cyflawn cyntaf am Niclas y Glais. Mae'r llyfr yn ffrwyth blynyddoedd o ymchwil ac yn rhoi darlun da o ddyn a ddioddefodd garchar oherwydd ei ddaliadau heddychol a sosialaidd.
- Barn
Bydd [y gyfrol hon] yn cael lle anrhydeddus ymhlith fy llyfrau. Grymus. Chwip o gyfrol sylweddol. Mawr yw ein dyled i'r ddau, sef yr awdur a'i wrthrych rhyfeddol.
- John Stevenson, Cylchgrawn Barn
Mae Hefin Wyn wedi llwyddo i gydbwyso cyflwyno hanes personol Niclas, gan ddadlennu a chofnodi llawer o fanylion a hanesion nas cofnodwyd o'r blaen, gyda darlun cyfoethog a dadlennol o wleidyddiaeth a diwylliant cymdeithas mewn cyfnod penodol. Dyma un o nodweddion cofiant arbennig, ond yn achos Niclas, a fu farw yn 91 mlwydd oed yn 1971, cawn ddarlun o gyfnod estynedig hynod ddiddorol. Mae lle amlwg i dafodiaith gyfoethog Sir Benfro yn arddull yr ysgrifennu, sydd wrth gwrs yn addas iawn o gofio'r awdur a'r gwrthrych, a thrwy gyfuniad o ddyfyniadau o'r wasg, barddoniaeth a chyfweliadau estynedig gyda gor-nai Niclas, yr Athro Glen George, does dim diflasu ar stori'r bardd. Mae Hefin Wyn wedi gwneud cymwynas fawr, nid yn unig â charedigion barddoniaeth Gymraeg a 'ffans' Niclas, ond, gan adlewyrchu diddordebau Niclas ei hunan, â'r rhai sy'n ymddiddori yn hanes cymdeithas, gwleidyddiaeth a chrefydd Cymru.
- Hywel Griffiths, Gwales