Reviews
Dilyn hynt y llithriad rhwng rhith a sylwedd a wnawn wrth ddarllen hanesion y casgliad hudolus hwn
- Jane Aaron
Nodweddir straeon Fabula gan eu cymysgedd chwilfrydig o'r ffuglen a'r ffeithiol (neu'r honedig ffeithiol), ac atgof a chwedl. Mae'r naws yn Gymreig a rhyngwladol ar yr un pryd, gyda'r straeon wedi'u lleoli mewn mannau mor amrywiol â Rhufain, Kyoto, Dulyn a Bae Ceredigion, ac mae'r arddull yr un mor eclectig, gan gynnwys adroddiad heddwas cudd, llythyrau cenhades, travelogue yn ogystal a straeon mwy traddodiadol. Ond er gwaethaf y lleoliadau rhyngwladol yr hyn sy'n arbennig am straeon Fabula, yw bod Cymru a ffawd hanesyddol y Cymry yn rhedeg trwyddynt fel llinyn cysylltiol. Mae'n saff gen i y bydd llawer o straeon gwreiddiol ac eang eu cyfeiriadaeth y gyfrol hon yn elwa o ail a thrydydd darlleniad, ac yn ildio haenau o ystyr ac arwyddocâd dyfnach.
- Arwel Vittle, Cylchgrawn Barn
Mae'r gwyfynod yn fotiff pwysig yn y gyfrol, ac yn ein tywys ar anturiaethau rhyngwladol yng nghwrs yr wyth stori a geir ynddi, o Buenos Aires i Ddulyn, o Kyoto i Barcelona, o Fro Morgannwg i Rufain, ac yn olaf o Gaerdydd i Aberystwyth.Trwy bresenoldeb cynnil y gwyfynod, fe dynnir y lleoliadau amrywiol hyn ynghyd mewn modd deinamig (neu deleolegol). Yn ganolog i'r cyfan mae'r ymwybyddiaeth Gymreig, a cheir myfyrdodau cyfoethog trwy'r gyfrol ar natur imperialaeth yn fyd-eang, a'r ymgodymu â hi yn y gorffennol a'r presennol (yn ogystal â'r dyfodol yn y stori 'Adar Rhiannon'). Erbyn diwedd y gyfrol, ceir awgrym ein bod ninnau, Gymry, wedi cyrraedd 'rhywle gwell', mwy gobeithiol; awgrym a atgyfnerthir gan ddelwedd y gwyfyn a esblygodd i ymdopi â heriau'r byd cyfoes, gan wrthsefyll atyniad angheuol goleuadau'r dinasoedd mawr. Nid oes gofod mewn adolygiad byr fel hwn i fynd i'r afael â holl gyfoeth storïau dychmygus Fabula, ond yr hyn sy'n nodweddu'r gyfrol drwyddi draw yw dyfeisgarwch arbennig, deallusrwydd a meistrolaeth aeddfed ar dechnegau ffuglen, heb sôn am amrywiol gyweiriau'r Gymraeg. Fel yng ngweithiau eraill Llŷr Gwyn Lewis, mae yma ddigon i gnoi cil drosto, anturiau annisgwyl a difyrrwch di-ben-draw.
- Angharad Price, Gwales