Reviews
Chwip o lyfr hanes sy'n cyflwyno Cymru mewn goleuni newydd
- Dafydd Ifans
Pob clod i Emrys Roberts, hen dderyn drycin o genedlaetholwr abl a galluog, am ein harfogi a phytiau angenrheidiol o'n hanes, o'r canrifoedd hyd heddiw. Cyfrol fechan, hylaw a deniadol... Mae Emrys Roberts yn llwyddo i wneud gosodiadau heriol, cwbl nodweddiadol ohono fo, sy'n procio ymateb.
- Vaughan Hughes, Cylchgrawn Barn
Ac yn wir daw nifer o ffeithiau newydd, ambell un yn agoriad llygad, wrth inni ei ddarllen. Dywed yr awdur mai'r prif sbardun iddo lunio'r llyfrynnau hyn (ceir cyfrol Saesneg gyfatebol) oedd cyffes gan gyfaill iddo yn ystod ymgyrch y bleidlais ar ddatganoli yn yr Alban yn 2014 'nad oedd yn teimlo ei hun yn fawr o Gymro', ac 'nid oedd yn gwybod rhyw lawer am Gymru chwaith'.
- John Graham Jones, Gwales
Mae'r llyfr gwerthfawr hwn yn drysor, yn hawdd iawn i'w ddarllen, y penodau yn fyr ac eto'n gynhwysfawr. Dylai pob Cymro a Chymraes ei ddarllen, dylai fod copïau ymhob ysgol, uwchradd a chynradd a chyfieithiadau i'w rhoi i bob un sydd yn dod yma i fyw.
- Anna E Jones, Y Wawr