Reviews
O'r dechrau'n deg fe wirionais ar y nofel hon. Cwympais mewn cariad â hi mewn gwirionedd. Nid stori afaelgar yn unig sydd yma ond ysgrifennu gwirioneddol rymus hefyd.
- Dafydd Morgan Lewis
Mae'r awdur yn giamstar ar greu diweddglo 'dal dy wynt' i bob pennod bron. Gyda phob datguddiad newydd, cedwir trwyn y darllenydd yn solet wrth y ddalen, i gael gweld beth ddaw nesaf - ac mae ol awch bwrpasol ar y dweud bob tro, yn finiog fel llafn rasel.
- Aled Islwyn, Cylchgrawn Barn
Y stori yn gafael ynof ac roedd yr iaith yn gyhyrog a naturiol... Mae cymeriadau yn rhai credadwy, cignoeth ... a'r prif gymeriad, Elin Ifans, wedi cael ei chyfleu'n wych. Mae'n ddiniwed ar yr un llaw ond hefyd yn dangos doethineb ar y llaw arall.
- Cylchgrawn Golwg
Mae Pantywennol yn nofel sydd yn llifo'n rhwydd, a'r cymeriadau a'r stori yn denu rhywun i droi'r tudalennau. Dengys y sgwennu celfydd, y cymeriadu cyflawn a'r darnau swreal hyn feistrolaeth yr awdur ar iaith goeth a theithi iaith addas ac amrywiol.
- John Roberts, Gwales
Mae eironi a hiwmor yn sylwadau crafog Elin am ei theulu a'i chymdogion... Ond mae elfennau tywyll i'r hanes hefyd, yn y gwrthdaro rhwng 'bwgan' Pantywennol a systemau rhywedd a dosbarth cymdeithasol yr oes. Mewn modd naturiol a chredadwy, wrth i Elin bendroni am ei bywyd a cheisio deall yr hyn a ddigwyddodd iddi, cawn yn y nofel hon ddarlnu o benbleth merched deallus difreintiedig yn eu harddegau, sy'n sylweddoli pa mor gaeth yw eu byd a chyn lleied o gyfleodd a fydd ar gael iddynt i ledu eu gorwelion. Fel pob pennod arall yn ei stori, mae'r diweddglo'n argyhoeddi; crfyder y nofel gelfydd hon yw ei chyfuniad o bortread byw o gymdeithas hanesyddol ac astudiaeth seicolegol ddwys sydd yn dal i fod yn berthnasol heddiw, gwaetha'r modd.
- Jane Aaron, O'r Pedwar Gwynt
Nofel fodern, yn delio â themâu sy'n dal i achosi pryder yw Pantywennol, er mai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y gosodwyd hi. Mae hi'n nofel dafodieithol, blwyfol, wrth-grefyddol, ffeministaidd, Farcsaidd, dywyll. Ac mae hi hefyd yn chwip o stori!
- Bethan Mair, O'r Pedwar Gwynt
Dyma'r seren i fi. Bu'n agos at ennill Gwbor Fedal Ryddiaith 2016 a mae rhaid fi weud petawn ni ar banel y beirniaid, i Pantywennol fyddwn i wedi rhoi'r wobr. Nofel eithriadol sydd yn sefyll ben ag ysgwyddau uwch ben nofelau eraill. Wedi cael pleser eithriadol o'i darllen. Mae Ruth Richards yn seren ar gyfer y dyfodol!
- Bethan Mair, Prynhawn Da
Crea'r awdures ddirgelwch gan orfodi'r darllenwyr gwestiynu sawl aelod o gymdeithas ofergoelus Mynytho'r ganrif.
- Y Stamp