Reviews
Nofel arbennig iawn gan awdur talentog, medrus. Mae'r disgrifiadau o'r therapi'n taro deuddeg yn ddi-ffael - yn boenus felly.
- Gareth F. Williams
Mae'r nofelydd yn llwyddo i drawsnewid profiad oeraidd, amhleserus yn fyfyrdod lliwgar ac athronyddol am fywyd.
- Fflur Dafydd
Nofel soffistigedig ar y naw, sy'n llawn dop o syniadau gyda phleserau mawr i'w cael ar bron bob tudalen. Dyma awdur gyda doniau digamsyniol o ran iaith a dychymyg ond mae hefyd yn cynnig gwaith deallusol grymus.
- Jon Gower
Byrlyma huotledd Guto Dafydd mor rhydd a'r ffynhonell eclectig honno o argraffiadau a gwybodaeth sy'n bwydo llifeiriant ei nofel. [...] Amrywia'r hiwmor o'r chwareus i ddychan deifiol a cheir dogn dda o athronyddu. Damcaniaethir a dadansoddir llu o ffurfiau celfyddydol ar hyd y daith. Dyma ysgrifennu disglair sy'n troi profiadau bychain, cyfoes yn wirioneddau oesol. Troes yr awdur bennod ddirdynnol yn ei hanes yn llwyfan dychmygus i'w ffraethineb a deallusrwydd - a gwnaeth hynny gyda chryn fedrusrwydd.
- Aled Islwyn, Barn
"Roedd yn wledd amheuthun, yn stori, yn gyffes, yn fyfyrdod, ac yn hollbwysig, roedd yn fy nghymell i droi'r tudalennau..l. Camp Guto yw creu cyfrol feistrolgar, lle mae ei ddiddordebau a'i syniadau – o uchel ddiwylliant a chelfyddyd i gwis tafarn, o gân 'Talu Bils' gan Rodney i geir Range Rover, o Shakespeare i'w snog a'i sigarét gyntaf – yn difyrru ac yn cynnal diddordeb y darllenydd."
- Catrin Beard, Gwales
"Heb ddarllen nofel hon yn y Gymraeg o'r blaen. Yn hollol gyfoes ac yn llawn hiwmor, dychan ac athronyddu cynnil sy'n cydio yn y darllennydd o'r dudalen gyntaf... Mae Guto Dafydd wedi llwyddo i blethu pynciau mewn modd hollol ffraeth, gonest a hiler ar brydiau. Mae'n nofel rymus, athronyddol, sydd wedi gwneud imi chwerthin yn uchel, gwingo a gwirioneddol gnoi-cil am ambell beth."
- Jon Gower, O'r Pedwar Gwynt
"Mae rhai o'r themau amlycaf - salwch a thriniaeth, terfysgaeth a biwrocratiaeth - yn rhan o draddodiad y nofel yn Ewrop ond mae naws a strwythur y nofel hon yn gwbl gyfoes."
- Geraint Evans, O'r Pedwar Gwynt