Reviews
"Caryl Lewis is probably the contemporary author that has done the most to keep the traditional Welsh novel – exploring rural life in the west of Wales – alive, but does it with such subtlety and skill and vibrant, credible characterisation that the familiarity is a strength rather than a problem. These characters exist right at the edge of a way of life, hill farming, that seems destined the change forever, and this novel and others by the author encapsulated that way of life, and the culture and dialect that is part of it.
- Ifan Morgan Jones, Nation.cymru
Rarely does one see such an insight, understanding and true perception of nature, the countryside, the weather and seasonal rural Wales.
- Marged Tudur, New Welsh Review
"Mae Caryl Lewis ar ei gorau yn y nofel rymus hon."
- Manon Steffan Ros
Y tad a'r mab a'r dieithryn yw'r drindod – Enoch, y tad sy'n prysur heneiddio, Isaac ei fab canol oed a chymhleth, ac Owen y dieithryn ifanc sy'n cyrraedd byd sy'n hollol ddieithr iddo. Ac mae'r byd hwnnw ei hun yn rym ac yn bresenoldeb yn y nofel.
Y dirgelwch ynglyn a'r gorffennol hwnnw yw'r peth sydd yn creu elfen ryfeddol o ysfa i droi tudalen. Mae yna hefyd gydnabyddiaeth o bwysigrwydd geiriau ac ysgrifennu trwy'r stori.,,
"Mae yma wrthdaro, tristwch, caledi, amheuaeth, cenfigen, ac eiliadau o dynerwch a charedigrwydd yn ogystal. Yn raddol down i amau bod rhyw gysgod sy'n peri bod yma fwy na'r tyndra arferol rhwng tad a mab. I ni, sydd ddim yn rhan o gymdeithas y mynydd, mae'n tyfu'n ddirgelwch. Mae'r eglurhad ar y diwedd yn ddigon i dorri'r galon galetaf."
Diffyg a methiant cyfathrebu yw un o brif themâu'r nofel, a phroblemau cyfathrebu rhwng dynion yn benodol...
"I ategu'r stori gref yma mae'r disgrifiadau manwl telynegol o olygfeydd y mynydd yn ystod y gwahanol dymhorau, a'r syndod sy'n tyfu'n barch, a welwn drwy lygaid Owen, at y bobl sy'n deall natur i'r graddau eu bod yn gallu byw a hi a'i rheoli, o fewn rheswm, at eu dibenion eu hunain."
"Nofel dywyll, sinistr .. ond eto ddim yn nofel drom, ac yn aros hefo chi. Mae 'na ddisgrifiadau trawiadol o fyd natur a sut mae'r bywyd yn dod yn rhan o'ch personoliaeth."
- Clwb Llyfrau, Radio Cymru
"Mae Caryl Lewis wedi llwyddo i greu darlun onest a lliwgar o fywyd bugail mynydd o dymor i dymor. Roeddwn yn teimlo fy mod yn clywed llift Nant y Clychau gan fod y disgrifiadau mor fyw. Fydd y nofel hon yn aros yn fy meddwl am amser hir."
- Cylchgrawn Golwg
"Portreadir yma brydferthwch rhyfeddol cefn gwlad a gweithgareddau angenrheidiol pob tymor ond yn gefndir i'r cyfan mae 'na hagrwch cynyddol."
- Sarah Down-Roberts, Gwales.com