Reviews
"Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd yn plymio i fyd tywyll Luc - byd doniol, byd dychanol, byd dig, byd chwerw, byd unig a byd trist. Mwynheiais Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn fawr. Mae hon yn nofel arloesol - o ran gwreiddioldeb ei stori ac o ran ei mynegiant unigryw. Dylid ei dderbyn a chroeso brwd."
- Rhodri Ll Evans, BBC Cymru'r Byd
Fe ddylai'r nofel hon achosi daeargryn. Mae hi'n hollol wahanol i unrhyw beth rydym wedi ei ddarllen yn y Gymraeg o'r blaen.
- Dafydd Morgan Lewis, Gwales
"Mae'n deud ar y clawr 'Nofelydd athrylithgar...' Mae hyn yn understatement. Mae crefft sgwenu Llwyd Owen mewn cae ar ben ei hun. Methais roi y llyfr i lawr. Clasur o thriller, clasur o gomedi tywyll. Mae'n anodd coelio sut wnaeth o ddim enillodd Wobr Goffa Daniel Owen (2005). Eto, mae'n hawdd gweld pam, yn anffodus, yn yr hen Gymru fach gul 'ma...,,Mae'n glasur ymhob ystyr, a fe ddengys amser ei fod yn haeddu cael ei gyfri ymysg goreuon o nofelau Cymraeg erioed.,,, Edrych mlaen yn arw am nofel arall gan yr awdur yma. Class. Athrylith.,,,,,"Nyff sed."
- Maes-e