Dyma gyfrol delynegol am hanes bywyd Derec Llwyd Morgan yn blentyn yn Nyffryn Aman. Crwt sensitif o'r Cefen ydoedd, yn fachgen o Gefn-bryn-brain. Dyma ddarlun o gyfnod arbennig ac o gymdeithas arbennig. Mae'n bortread hyfryd o gymeriadau a hen arferion mewn rhan o Gymru nad yw'n cael llawer o sylw.
Mae'r testun yn hyfryd o ddarluniadol, gan gyfleu byd ac amser gwahanol yn hynod iawn. Y mae sawl peth yn codi o'r gyfrol, gan gynnwys y ffaith i Derec golli aelodau o'i deulu a rhai o'i gydnabod yn ifanc ac i hynny gael cryn effaith arno.
Daw'r dweud i ben wrth i'r Derec ifanc gamu o fynwes ei deulu i'r byd mawr tu allan a dechrau ar ei yrfa mewn prifysgol.