If ordering from outside of the UK you may need to pay duty and other handling fees on top of our carriage charges.
A picture of T. Robin Chapman

T. Robin Chapman

Pan ddywedodd Simon Brooks, 'Yn T. Robin Chapman mae gan Gymru ddyn sydd i bob pwrpas yn gofiannydd llawn-amser,' nid oedd ymhell o'i le. Ymhlith y cymeriadau y mae Dr Chapman wedi llunio cofiannau awdurdodol arnynt y mae W. J. Gruffydd ac Ambrose Bebb (yng nghyfres Dawn Dweud), a Ben Bowen ac Islwyn Ffowc Elis (yng nghyfres Writers of Wales). Ymhelaethodd ar ei waith ar Islwyn Ffowc Elis yn Rhywfaint o Anfarwoldeb (Gwasg Gomer, 2003), a alwyd gan Meic Stephens yn 'un o'r bywgraffiadau Cymraeg gorau rwyf wedi eu darllen'. Cyrhaeddodd y gyfrol restr fer hir Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Ganwyd T. Robin Chapman yng Nghaerŷlr, ond bellach mae wedi hen ymgartrefu yng Nghymru, lle mae'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Enillodd radd DLitt yn 2004 am ddetholiad o'i waith cyhoeddedig dan y teitl 'Pynciau a Phersonoliaethau mewn Llenyddiaeth Gymraeg: 1890-1990'.

http://www.aber.ac.uk/cy/cymraeg/ymchwil/robin-chapman/

BOOKS BY THE AUTHOR

The Idiom of Dissent

- T. Robin Chapman
£9.99

Rhywfaint o Anfarwoldeb - Bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis

- T. Robin Chapman
£12.99