If ordering from outside of the UK you may need to pay duty and other handling fees on top of our carriage charges.
A picture of Mari Siôn

Mari Siôn

Treuliodd Mari ei phlentyndod yn Nyffryn Ceiriog a'i llencyndod yn ninas Bangor. Wedi graddio mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth y Trydydd Byd ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i dderbyn gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Wedi cyfnod yng Nghaerdydd yn gweithio i Blaid Cymru ac RNID Cymru, dychwelodd i Geredigion. Mae bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ble mae'n gweithio i Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant. Yn 2004, enillodd Fedal Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn am ei chasgliad o gerddi, 'Dilyffethair'. Ers hynny mae ei cherddi wedi eu cyhoeddi yn Tu Chwith, Golwg a Poetry Wales. Yn 2010 sefydlodd y blog be di gender yn Gymraeg? a'i nod o greu gofod i fenywod drafod pob agwedd o'u bywydau a hynny mewn cyd-destun ffeministaidd. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i blant, Ar Binnau gyda Gwasg Gomer yn 2011.

BOOKS BY THE AUTHOR

Cyfres Swigod: Ar Binnau

- Mari Siôn
£4.99