If ordering from outside of the UK you may need to pay duty and other handling fees on top of our carriage charges.
A picture of James Nicholas

James Nicholas

Brodor o Dyddewi, Sir Benfro yw James Nicholas. Treuliodd ei yrfa ym myd addysg: bu'n athro Mathemateg yn y Bala, Penfro a Thyddewi, ac yn brifathro Ysgol y Preseli, cyn ei benodi'n Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi yn 1975. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969 a gwnaeth gyfraniad enfawr i'r Orsedd a'r Eisteddfod ers hynny; bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1981 ac 1984 ac yn Gofiadur i'r Orsedd tan 2005. Mae'n aelod ffyddlon a gweithgar yn Eglwys Penuel, Bangor ac yn gyn-Lywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae'n briod â Hazel ac mae ganddynt ddwy ferch a dau ŵyr. Mae'n byw yn Nhalybont ger Bangor.

BOOKS BY THE AUTHOR

Ffordd y Pererinion a Cherddi Eraill

- James Nicholas
£8.50