Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Erthyglau

Ar ôl torri'r rhyngrwyd gyda'i ganeuon mae'r Welsh Whisperer am chwalu'r byd llyfrau gyda'i lyfr cyntaf
Cofio aberth T. H. Parry-Williams ganrif ers diwedd y Rhyfel Mawr

Cofio aberth T. H. Parry-Williams ganrif ers diwedd y Rhyfel Mawr

Ganrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf daeth gwybodaeth newydd am yr effaith bellgyrhaeddol a gafodd y rhyfel ar un o feirdd a llenorion enwocaf Cymru – T. H. Parry Williams. Daw’r wybodaeth i’r fei mewn llyfr newydd sy’n bwrw golwg newydd ar brofiadau T.H. Parry-Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol – Pris cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr gan Bleddyn Owen Huws.  darllen mwy

Robin Llywelyn yn cyhoeddi ei lyfr cyntaf ers tair mlynedd ar ddeg
Cofianydd Iolo Morganwg yn dyrchafu cyfraniad 'syfrdanol' y gwrthryfelwr radical
Cyw yn annog blant i ailgylchu

Cyw yn annog blant i ailgylchu

Mae llygredd, yn enwedig plastig, yn bwnc llosg ledled y byd ar hyn o bryd, ac yn cynyddu mewn pwysigrwydd wrth i ni ddysgu mwy am wirioneddau’r difrod a ddaw o’n sbwriel. Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr newydd yng nghyfres boblogaidd Cyw i gyflwyno’r neges i blant – Ailgylchu gyda Cyw.  darllen mwy

Cyhoeddi dyddiaduron milwr ifanc o ddiwedd y Rhyfel Mawr
Cymeriad 'camp' pumed marcwis Môn yn ysbrydoli nofel

Cymeriad 'camp' pumed marcwis Môn yn ysbrydoli nofel

Yr wythnos hon cyhoeddir Siani Flewog, ail nofel yr awdures o Fôn, Ruth Richards. Fel ei nofel gyntaf lwyddiannus, Pantywennol, ceir llinyn o’r gorffennol wrth i’r nofel ddarlunio cymeriad lliwgar y bonheddwr Henry Cyril Paget, pumed Marcwis Môn (1875 – 1905). Plas Newydd, Ynys Môn (nawr o dan gadwraeth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) oedd un o’i stadau niferus. Drwy wario’n afradlon ar dlysau, gemau a chyflwyniadau theatrig, llwyddodd Henry Cyril Paget i ddifa ffortiwn oedd yn gyfwerth â thua £11 miliwn y flwyddyn yn arian heddiw.  darllen mwy

Nofel ddirgelwch gan awdur newydd wedi'i hysgrifennu mewn arddull Sgandi noir
Llywydd Gŵyl Cobiau Aberaeron wedi cyhoeddi llyfr hanes llaethdai Cymry Llundain

Llywydd Gŵyl Cobiau Aberaeron wedi cyhoeddi llyfr hanes llaethdai Cymry Llundain

Dros y canrifoedd mae’r Cymry wedi bod yn ganolog ac yn rhan bwysig iawn o ddosbarthu llaeth i drigolion dinas Llundain. Fe gyhoeddir llyfr dwyieithog yn nodi hanes y cyfraniad pwysig a wnaed gan Gymry o ardaloedd gwledig, gan gynnwys Ceredigion, ar Lundain a’i boblogaeth a oedd yn tyfu’n gyflym. Ganed yr awdur Megan Hayes i rieni o Sir Aberteifi, Dan ac Eliza Jane Lloyd, ac roedd y ddau ohonynt yn gweithio ym masnach llaeth Llundain.  darllen mwy

CYHOEDDI LLAWLYFR HANFODOL AM BATAGONIA GAN GYMRAES A SWYNWYD GAN Y WLADFA

CYHOEDDI LLAWLYFR HANFODOL AM BATAGONIA GAN GYMRAES A SWYNWYD GAN Y WLADFA

Yn y dathliad blynyddol i gofnodi glaniad y Cymry Cyntaf ym Mhorth Madryn, cyhoeddir llawlyfr pwysig i dywys pobl ar hyd taith y Cymry ym Mhatagonia gan Gymraes a briododd ddyn o’r Wladfa. Mae Llawlyfr y Wladfa, wedi’i ysgrifennu gan Delyth MacDonald, yn annog y darllenydd i ddilyn yr haul tua’r gorllewin hyd at yr Andes – mi fydd yn cael ei chyhoeddi yng Ngŵyl y Glaniad, sydd eleni yn Y Bala ar Orffennaf 28.  darllen mwy

Ffrindiau oes yn cydweithio i greu llyfr Deian a Loli
Trosedd go iawn yn ysbrydoli nofel dywyll newydd Llwyd Owen
321-340 o 484 1 . . . 16 17 18 . . . 25
Cyntaf < > Olaf