Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y seiciatrydd adnabyddus, David Enoch, yn cyhoeddi cofiant grymus o'i fywyd sy'n pontio ffydd a meddyginiaeth

Yn 95 mlwydd oed, mae’r seiciatrydd Dr David Enoch, sy’n adnabyddus dros y byd, yn cyhoeddi ei hunangofiant. Mae Enoch’s Walk – 95 Not Out: Journey of a Psychiatrist yn cofnodi hanes bywyd rhyfeddol y seiciatrydd Cristnogol, gan fanylu ar bum brif elfen ei fywyd, sef bod yn ddoctor, seiciatrydd, pregethwr, darlledwr ac awdur – gan ddechrau gyda’i wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin. Mae Dr David Enoch wedi bod ar flaen y gad gyda digwyddiadau cymdeithasol, crefyddol a meddygol, sy’n gwneud y cofnod o lygad y ffynnon yma yn un pwysig yn hanes yr unfed ganrif ar hugain. Ar ben hynny, mae’n adrodd stori ei fywyd yn ddi flewyn ar dafod. Mae’n disgrifio ei hun fel un sy’n “benderfynol o bontio’r bwlch rhwng ffydd a meddyginiaeth.”

Yn Enoch’s Walk mae’n cofio taith annisgwyl i India, lle gafodd ei leoli yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n cofio sefyll ac edrych ar dirlun syfrdanol mynyddoedd gogledd-orllewin India yn 1945 ac yntau ar y pryd yn 18 oed, yn Gristion angerddol oedd newydd ddod o’r pentref lle’i fagwyd, sef Penygroes, ger Rhydaman, yn fab i löwr o orllewin Cymru. 

Ar ôl pedair blynedd yn India, dychwelodd i Gymru ac fe wnaeth benderfyniad a gafodd effaith fawr ar ei ddyfodol. Cafodd ei gynghori gan ddau fentor – Tom a Rae, Prifathro a Phennaeth Ieithoedd Mordern yn yr ysgol ramadeg. Fe welodd y ddau yr effaith a gafodd profiadau India arno ef a’i ffrindiau ac awgrymu iddo mai meddyginiaeth fyddai’r dewis gorau iddo, yn hytrach na hyfforddi i fod yn weinidog.

Fe gymhwysodd Dr David Enoch fel doctor yn Ysbyty St Thomas, Llundain. Yn dilyn hyn aeth ymlaen i fwynhau gyrfa ragorol mewn seiciatreg ac roedd yn flaenllaw wrth geisio dynoli’r maes. Mae e wedi bod yn llais amlwg a chyson dros gael cydnabyddiaeth a thriniaeth briodol i rai sydd â salwch meddyliol.