Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y môr, amaethyddiaeth a mwyngloddio – hanes gogledd Ceredigion drwy gofnodion un teulu

Mae llyfr newydd a gyhoeddir gan y Lolfa, Land of Lead, yn olrhain stori ac atgofion pedair cenhedlaeth o’r un teulu, o’r 19eg ganrif i ganol y 1960au. Mae’r hanes wedi’i gasglu o gofnodion manwl y teulu, gan gynnwys llyfr nodiadau, cardiau post a anfonwyd adre yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a nodiadau a wnaed gan hen ewythr wrth iddo weithio ar reilffordd gul Dyffryn Rheidol. Mae’r llun yma o un teulu o ogledd Ceredigion wedi’i gyflwyno gan un o’r disgynyddion, Brian Davies, sy’n wreiddiol o Benrhyncoch, ger Aberystwyth.

Meddai’r awdur Brian Davies:

“Mae fy nheulu ar y ddwy ochr yn hanu o Aberystwyth a’r ardal o gwmpas. Rwy’n lwcus iawn bod gymaint o dystiolaeth ddogfennol wedi goroesi, sydd yn rhoi mewnwelediad manwl i hanes y teulu a’r ardal. Mae dadansoddiad a dealltwriaeth o’r cofnodion yma wedi’i seilio ar ffurf cof gwerin ar lafar sydd yn prysur ddiflannu wrth i fy nghenhedlaeth i ddiflannu.”

Mae Land of Lead yn rhoi golwg ar hanes cymdeithasol, economaidd a gwerinol gogledd Ceredigion yn ystod cyfnod o newidiadau mawr, yn ogystal â chyffwrdd ag hanes Aberystwyth a’r ardal o amgylch y dref, gan edrych ar ochr amaethyddol, mwyngloddio a forol yr ardal. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys detholiad o luniau dyfrlliw o’r 19eg ganrif, gan y Master Mariner Capten William James, sy’n dangos hanes morol a llongau hwylio Aberystwyth. Ni chyhoeddwyd y lluniau yma o’r blaen.

“Mae ymgysylltiad dolenni fy nheulu – o ddirywiad gweithgareddau morol a’r diwydiant mwyngloddio i sefydliad y rheilffyrdd, yn enwedig cangen rheilffordd gul Dyffryn Rheidol yn cynnig coffâd hanesyddol o ddigwyddiadau a gafodd gryn effaith ar yr ardal,” meddai Brian Davies.

Mae Land of Lead yn olrhain hanes y Capten William James (1842–1917) a aeth i forio, a hanes Aberystwyth fel porthladd; am ei fab William Richard James (1895–1968) a’i wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r Egyption Expeditionary Force. Mae’r llyfr hefyd yn cofnodi ochr tad yr awdur gyda stori John David Davies (1876–1942) a fagwyd yn Lledrod ac er i’w dad geisio osgoi mwyngloddio, bu’n rhaid i John weithio fel mwynwr plwm yng Ngheredigion cyn cael ei orfodi i adael ei deulu er mwyn gweithio yng nglofeydd de Cymru yn sgil dirywiad yn y mwynfeydd plwm; ac Isaac Jenkins (1833–1966) a weithiodd ar y rheilffordd gul o Aberystwyth i Bontarfynach, ffordd a adeiladwyd er mwyn cludo mwyn plwm yn fwy effeithlon i borthladd y dref. Mae Land of Lead hefyd yn cynnwys llawysgrif a ysgrifennwyd gan dad Brian Davies am ei blentyndod a’i brofiadau yn ystod y rhyfel. Bu’r llawysgrif yma yn help mawr i’r awdur ysgrifennu ei lyfr blaenorol, Salem Soldier.

“Dyma ond un cofnod cymdeithasol a hanesyddol o gryn nifer sydd ar goll, neu ar fin cael eu colli, sy’n helpu ni i ddeall pwy ydyn ni. Rwy’n gobeithio bydd y stori yn rhoi mewnwelediad i ychydig o hanes gogledd Ceredigion ac yn ychwanegu at y cofnodion hanesyddol a chymdeithasol. Rwy’n gobeithio gadael y lluniau a’r llyfr nodiadau morol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn y gobaith y bydd y gwrthrychau yma yn fwy dealladwy a chanddynt fwy o arwyddocâd ar ôl eu cyfuno gyda thystiolaeth gyd-destunol.”